Bywgraffiad CY:
Ariannwyd prosiect WiciPics gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Menter Iaith Môn. Canolbwyntiodd y prosiect ar annog a galluogi cymunedau lleol i dynnu ffotograffau o dreftadaeth adeiledig yn eu hardal leol, gan gynnwys adeiladau cofrestredig, capeli, henebion a safleoedd eraill a gofnodwyd yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Mae delweddau a rennir ar gyfer y prosiect hwn ar gael i'w hailddefnyddio ar drwydded Creative Commons CC BY-SA 3.0. https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0/deed.en