Minecraft Your Museum Competition 2020's profile picture

Minecraft Your Museum Competition 2020

Dyddiad ymuno: 09/10/20

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Mae Cystadleuaeth 'Minecraft Eich Amgueddfa' 2020 yn gwahodd disgyblion ysgol 6-11 oed i ddefnyddio eu dychymyg i adeiladu eu hamgueddfa ddelfrydol gan ddefnyddio Minecraft. Mae'r gystadleuaeth hon yn tynnu sylw at ddyfeisgarwch y bobl ifanc talentog sydd gennym yng Nghymru! Maent wedi creu yr Amgueddfeydd harddaf posib a'r casgliadau mwyaf rhyfeddol. Roeddent hefyd wedi meddwl am bopeth y gallai'r ymwelydd fod ei angen, o gaffis, i fannau chwarae, sioeau ac wrth gwrs cyfleusterau toiled. Llwyddodd pob un i fod yn benseiri digidol, yn guraduron ac yn rheolwyr Amgueddfeydd ar yr un pryd! Mae'r sgiliau digidol roedden nhw'n eu defnyddio wrth greu a chyflwyno yn bendant yn rhywbeth i ymfalchio ynddo! Mae'n ymddangos bod gwneud Llythrennedd Digidol yn thema drawsgwricwlaidd yng Nghymru yn talu ar ei ganfed.

Gwelwch mwy o gynnwys gan Amgueddfa Cymru