Trac Cymru's profile picture

Trac Cymru

Dyddiad ymuno: 29/05/14

Amdan

Bywgraffiad CY: 
Mae Trac Cymru yn hybu diddordeb, magu talent a chyflwyno’r gorau o gerddorion gwerin Cymru drwy’r byd. Rydym yn cynnal cyrsiau un-dydd, a chyrsiau preswyl i helpu’r rhai brwdfrydig a phroffesiynnol i hogi eu sgiliau ac i ddatblygu talent ar draws ein celfyddydau traddodiadol. Fe’n gwelir ni’n gweithio mewn ysgolion, cymunedau, ar feysydd gwyliau ac mewn arddangosfeydd rhygwladol i sicrhau fod y celfyddydau traddodiadol yn Nghymru yn parhau i gyfoethogi bywyd, beth bynnag eich hoedran, cefndir, hil neu iaith. Mae Trac Cymru yn grediniol mai celfyddydau perfformiadol traddodiadol yw sail hunaniaeth unrhyw genedl. Mae’r ffurfiau creadigol hyn yn rhan annatod o ddiwylliant Cymreig; mae’r gwerthoedd a’r emosiynau a fynegir ganddynt yn ein tynnu oll ynghyd. Nod Trac Cymru yw adnewyddu ac adfywio’r ffurfiau mynegiannol hyn fel rhan o fywyd cyfoes Cymru, a hynny er mwynhad pawb. Mae trac yn Elusen Gofrestredig Rhif 1085422 Mae celfyddydau traddodiadol Cymru yn gonglfaen cydlyniant cymdeithasol ac yn mynegi ein hanes unigryw, ein heithoedd, ein diwylliant an ffordd o fyw. Mae cerddoriaeth, canu, cerdd dant, dawns a storïa yn rhan on genedigaeth-fraint. Credwn bod gwerthoedd cynhenid ein dulliau mynegiant traddodiadol yn rhwymau sy'n ein clymu at ein gilydd; her y dyfodol yw adnewyddu'r dulliau mynegiant hyn mewn ffyrdd syn bodoli'r cenedlaethau newydd tran parchur rhai a fu. Mae trac yn bodoli i feithrin datblygiad y celfyddydau traddodiadol hyn.
  • 1,024
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 950
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 982
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,231
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi