Dilys Jones's profile picture

Dilys Jones

Dyddiad ymuno: 26/03/20

Amdan

Bywgraffiad CY: 
Mae Dilys Jones, Aberarth, yn ymhyfrydu yn ei magwraeth yng nghefn gwlad Ceredigion a’r cyfnod y bu’n ffermio fferm laeth ym Mhennant gyda’i diweddar ŵr, Gwilym. Dros y blynyddoedd bu’n aelod o sawl mudiad a chymdeithas – bu’n arweinydd y Ffermwyr Ieuainc er enghraifft, sefydlodd bwyllgor ieuenctid Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn yr 1980au ac elwodd yn fawr o’i chysylltiadau gyda Chymdeithas Tir Glas Canol Ceredigion yn ogystal. Mae’n aelod o Ferched y Wawr Cylch Aeron a chymdeithas lenyddol Gorsgoch ac mae hi hefyd yn gwneud llawer o waith i gefnogi cymuned y dysgwyr. Mae wrth ei bodd yng nghwmni archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a does dim yn well ganddi na derbyn gwahoddiad i roi sgwrs neu ddarlith i gymdeithasau lleol. Yn 2010 etifeddodd gasgliad cyfoethog o ddogfennau, llythyron a dyddiaduron amaethyddol blaengar ei thad-cu, R. L. Jones a wnaeth gyfraniad sylweddol i’r byd amaethyddol yng Ngheredigion; a hithau bellach yn geidwad y casgliad rhyfeddol hwn o ddyddiaduron a gofnodwyd rhwng 1915-1940, mae wedi dwyn ynghyd nifer o eitemau a sgwrs hanes llafar am R.L. i’w rhannu ar Gasgliad y Werin. Cyflwynwyd y sgwrs hon o flaen sawl cynulleidfa yn ystod 2019-2020 pan fu’n codi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Popular Items

Cyfranwyr poblogaidd