David Pugh Collection's profile picture

David Pugh Collection

Dyddiad ymuno: 19/02/20

Amdan

Bywgraffiad CY: 
Does dim dwywaith mai David Pugh oedd un o groniclwyr pennaf y Drenewydd. Ef oedd sylfaenydd The Newtonian a golygydd amryw byd o gyhoeddiadau ar ran Grŵp Hanes Lleol y Drenewydd ac mae gwaddol ei wybodaeth drylwyr am hanes y Drenewydd wedi parhau.

Cafodd ei fagu uwchben caffi ei rieni, The Copper Kettle, ar y Stryd Fawr. Ar ôl treulio rhai blynyddoedd i ffwrdd yn gweithio fel darlithydd yng ngholeg peirianyddol y BBC ger Evesham ac yna gyda radio lleol yn Stoke-on-Trent dychwelodd i’r Denewydd, yn 1982, i ymgymryd â swydd Rheolwr Technegol yn Theatr Hafren, yng Ngholeg Powys, lle bu’n gweithio am 20 mlynedd.

Roedd David Pughe yn hanesydd brwd oedd yn angerddol ynghylch trosglwyddo hanes, straeon a gwybodaeth am y Drenewydd a’i phobl i genedlaethau’r dyfodol. Arferai arwain teithiau tywys o amgylch y dref a rhoi sgyrsiau am nodweddion archaeolegol yr adeiladau a’u hanes. Fel gwirfoddolwr yn Amgueddfa Decstiliau y Drenewydd roedd yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd yr amgueddfa i dreftadaeth ddiwydiannol y Drenewydd ac i ddatblygiad parhaus y dref, a phan wnaeth yr amgueddfa ailagor yn 2016 fe’i penodwyd yn guradur yno. Bu hefyd yn Ymddiriedolwr i Powysland Club a gwnaeth gyfraniad amrhisiadwy i waith Cymdeithas Ddinesig y Drenewydd a’r Cylch. O 1994–1996 daliai swydd Maer y Drenewydd yn ogystal.

Roedd ganddo ddiddordebau eang, o electroneg, i gerddoriaeth a’r celfyddydau yn gyffredinol. Roedd yn aelod brwd o Seindorf Arian y Drenewydd, a daeth yn gyfaill mawr i Opera Canolbarth Cymru, gan adneuo copïau archif o fideos o’r cwmni yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd yn hanesydd oedd yn deall pwysigrwydd cofnodion cyhoeddus chwiliadwy, ac yn ffotograffydd brwd wnaeth David gofnodi’r neiwidiadau a ddaeth i’r Drenewydd dros y degawdau, gan dynnu rhai miloedd o ffotograffau ei hun, a chasglu llawer mwy drwy ei ymchwil hanesyddol.

  • 299
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 305

  • 235
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 308

  • 384

  • 408
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 278

  • 282
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 380
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 275
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 246
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 239

  • 304
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 280
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 326
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 375
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 424
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 317
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 370
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 314

  • 334
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 283
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 312
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 311
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 297