Angel Shark Project Wales 's profile picture

Angel Shark Project Wales

Dyddiad ymuno: 20/08/18

Amdan

Bywgraffiad CY: 

PWYSIGRWYDD CYMRU I’R MAELGI
Rhywogaeth brin o siarc gydag esgyll hirion sy’n llithro ar draws gwely’r môr yw’r Maelgi. Ar un adeg roedd yn gyffredin ar draws gorllewin Ynysoedd Prydain ond mae’r Maelgi bellach Mewn Perygl Difrifol. Ar ôl dioddef dirywiad helaeth ar draws ei gynefin dros y ganrif ddiwethaf, cafwyd nifer cynyddol o adroddiadau am ymddangosiad y rhywogaeth brin hon ar hyd arfordir Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn yn rhoi gobaith am ei dyfodol.

Yn Saesneg, gelwir y Maelgi hefyd yn ‘monkfish’ neu’n ‘angel fish’, ac weithiau bydd y siarcod hyn yn cael eu camgymryd am forgathod neu eu cam-gofnodi fel ‘Cythreuliaid y Môr’ (‘Anglerfish’).

Nodwedd unigryw ar y prosiect yw casglu atgofion a hen luniau o Faelgwn gan gymunedau ledled Cymru trwy gyfrwng Sioeau Teithiol Hanes Maelgwn. Ein gobaith yw y bydd yr wybodaeth a gawn nid yn unig yn helpu i wella ein dealltwriaeth o ecoleg Maelgwn yn nyfroedd Cymru, ond y bydd hefyd yn dod â chymunedau at ei gilydd ac yn ysbrydoli cenedlaethau iau i ddysgu mwy am dreftadaeth forol gyfoethog Cymru.

Ymhellach, gyda help gwyddonwyr-ddinasyddion, byddwn yn chwilio trwy lyfrgelloedd lleol, archifau, cylchgronau hanesyddol ac amgueddfeydd am wybodaeth yn ymwneud â Maelgwn. Bydd yr wybodaeth a gawn yn sgil y gwaith ymchwil hwn yn cael ei digido a’i harddangos ar y cyd â Chasgliad y Werin Cymru.

Byddwn yn mynychu digwyddiadau allgymorth ledled Cymru yn ogystal â threfnu ‘Sioeau Teithiol Hanes Maelgwn’, lle y bydd croeso ichi rannu eich gwybodaeth neu unrhyw atgofion, lluniau a fideos sydd gennych o Faelgwn yn nyfroedd Cymru.

  • 526
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi