arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
Darlun Archif Cof - Dementia - Memory Archive
Archif Cof - Dementia - Memory Archive

Dyddiad ymuno: 25/07/18

Eich cyfrif

Bywgraffiad CY: 

Menter o eiddo Casgliad y Werin Cymru sy’n cael ei harwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw ‘Archif Cof’.  Cyfrif wedi’i guraduro yw hwn, sydd â’r nod o hwyluso gwaith hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementia.

Mae’r casgliadau wedi’u rhannu’n themâu a degawdau (o fewn cof pobl fyw), ar sail adborth staff gofal iechyd proffesiynol. Mae storïau’n cael eu dwyn ynghyd o dan themâu clystyredig (er enghraifft, mae ‘Tu mewn i Gartrefi Cymru’ yn cynnwys ‘Ceginau’, ‘Ystafelloedd Ymolchi’, ‘Ystafelloedd Byw’ a ‘Teledu a Radio’) a cheir hefyd dudalen ‘Adnoddau eraill’ sy’n rhestru adnoddau di-dâl ychwanegol sydd ar gael at bwrpas hel atgofion.

Mae’r gwaith hwn wedi datblygu o ddigwyddiad a gynhaliwyd yn 2017 yn y Comisiwn Brenhinol mewn partneriaeth ag Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Pwrpas y digwyddiad oedd ystyried sut y gallai archifau gael eu defnyddio’n ffynhonnell ar gyfer creu gweithgareddau, storïau a gweithiau celf a fyddai’n helpu i ysgogi atgofion ymhlith pobl sy’n byw gyda dementia. 

Fel rhan o bartneriaeth Casgliad y Werin Cymru, byddwn yn gweithio’n agos â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru i ddatblygu’r gwaith hwn yn y dyfodol.

… Dangos mwyDangos llai

Gwefan: http://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth/archif-cof/