Llongau-U's profile picture

Llongau-U

Dyddiad ymuno: 08/06/18

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Effeithiodd y Rhyfel Mawr ar y Môr mewn nifer o ffyrdd gwahanol ar Gymru a’i phobl. Mae’r Prosiect Llongau-U, 1914-18: Coffáu’r Rhyfel ar y Môr yn dwyn ynghyd haneswyr, archaeolegwyr, gwyddonwyr morol, amgueddfeydd a grwpiau cymunedol ar hyd a lled Cymru i adrodd storïau’r cyfnod.

Menter ar y cyd rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yw’r Prosiect Llongau-U, 1914-18. Cefnogir y prosiect hefyd gan rwydwaith o amgueddfeydd môr, grwpiau cymunedol a grwpiau hanes ar draws Cymru. Gan elwa ar arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect yn gallu manteisio ar y technegau delweddu diweddaraf  i gofnodi llongddrylliadau o’r Rhyfel Byd Cyntaf a helpu cymunedau ar hyd arfordir Cymru i adrodd eu hanesion am y Rhyfel Mawr ar y Môr am y tro cyntaf.

Gan gyfuno deunydd ar-lein mynediad agored, arddangosfa deithiol, sgyrsiau am ddim i’r cyhoedd, a dyddiau gweithgarwch i’r teulu cyfan, mae’r Prosiect Llongau-U yn rhoi cyfle heb ei debyg i bobl archwilio’r llongau ar waelod y môr sy’n rhan o dreftadaeth Cymru. Mae’r ymchwil sy’n cael ei wneud gan y partneriaid yn datgelu storïau newydd am y Rhyfel Mawr yn nyfroedd Cymru.

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn gweithio gyda rhwydwaith o amgueddfeydd môr a gwirfoddolwyr i ddarganfod a chyflwyno cyfoeth o ddeunydd hanesyddol am yr holl longddrylliadau y rhoddir sylw manwl iddynt ar y wefan hon. Ategir y dimensiwn hanesyddol hwn gan arolygon geoffisegol. Mae’r data cydraniad uchel a gasglwyd am rai o’r llongddrylliadau, yn ogystal â ffilmiau fideo tanddwr, yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni am ecoleg a bioamrywiaeth y safleoedd hyn ar wely’r môr. Canolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor sy’n ymgymryd â’r gwaith hwn. Yn ystod y Prosiect Llongau-U fe fydd menter Seasearch y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn casglu gwybodaeth ecolegol o’r llongddrylliadau. Hefyd, fel rhan o’r prosiect, bydd y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yn darparu hyfforddiant mewn archaeoleg danddwr i ddeifwyr ar ddau safle yng ngogledd a gorllewin Cymru.

Hoffem ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n caniatáu i Gronfa Dreftadaeth y Loteri fuddsoddi arian i helpu pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth y mae ganddynt feddwl mawr ohoni. http://www.hlf.org.uk/. Dilynwch Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #HLFsupported.

Gwefan: https://prosiectllongauu.cymru (Yn agor mewn ffenestr newydd)

  • 468
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 618
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 602
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 568
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 652
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 525
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 600
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 606
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 732
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 523
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 629
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 871
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 524
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 711
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 583
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 507

  • 464

  • 682
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 656
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 645
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 486
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 646
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 611
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 609
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 910
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 660
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 679
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 691