West Glamorgan Archive Service's profile picture

West Glamorgan Archive Service

Dyddiad ymuno: 04/05/18

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Adeiladwyd gweithfeydd haearn Mynachlog-nedd gan gwmni Crynwyr Fox and Company, Cernyw 1792. Ar ôl goroesi sawl helynt a newid mewn perchnogaeth, caeodd y gweithfeydd ym 1885. Yn ystod eu hamser, cynhyrchodd y gweithfeydd beiriannau cloddio sefydlog, locomotifau'r rheilffyrdd, llongau hwylio ager a haearn ar gyfer cwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig yn bennaf ond cynhyrchwyd nwyddau i entrepreneuriaid Prydeinig a thramor ar adeg hefyd, gan gynnwys rhai yn Ewrop ac ymhellach i ffwrdd, ym Mexico ac yn Awstralia, er enghraifft.

Mae casgliad gweithfeydd haearn Mynachlog-nedd yn un o gasgliadau pwysicaf Archifau Gorllewin Morgannwg yn Abertawe ac yn un o nifer cyfyngedig o gasgliadau archifau yng Nghymru sydd ar restr y DU o raglen Cof y Byd UNESCO. Mae dros 7,500 o ddarluniadau peirianneg a gafodd eu creu at ddibenion marchnata a gwneud y peiriannau'n datgelu datblygiad technolegol peirianwaith diwydiannol yn ystod y 19eg ganrif ac yn nodi pa mor bwysig oedd cyfraniad Cymru at y chwyldro diwydiannol Prydeinig. Adnabu cynnyrch gweithfeydd haearn Mynachlog-nedd am eu safon, er y gellir disgrifio rhai o'r locomotifau cynnar a gynhyrchwyd gan y gweithfeydd fel arbrofol ar y gorau.

Mae grant hael gan Friends of the National Libraries yn 2018 wedi galluogi Archifau Gorllewin Morgannwg i ddigideiddio a rhoi casgliad o'r darluniadau yma. Gallwch weld y darluniadau gwreiddiol a miloedd o ddarluniadau tebyg yn ein swyddfeydd yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe (edrychwch ar ein gwefan i gael mwy o wybodaeth am sut i ymweld â ni a phori drwy'n catalog ar-lein). Cysylltwch â ni os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch i gael mynediad at y cofnodion hyn neu i gael copïau.

Hoffai Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg gydnabod haelioni Friends of the National Libraries am ddigideiddio'r darluniadau hyn ac am ein cynorthwyo i brynu'r casgliad yn 2013.