The Windrush Project's profile picture

The Windrush Project

Dyddiad ymuno: 06/04/18

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Cafodd y Prosiect Rhwng Cenedlaethau Windrush ei ddatblygu gan y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd ac fe'i gefnogwyd gan bobl ifanc a ddefnyddiasai'r Ganolfan a'n partner treftadaeth - Oriel Gelf Glynn Vivian. Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Loteri Treftadaeth ac fe'i cyflwynwyd dros gyfnod o 18 mis o Fawrth 2017 hyd at Awst 2018.

Roedd y prosiect yn cynnwys pobl ifanc (11-17 oed) o ysgolion lleol a gwirfoddolwyr ifanc yn Abertawe i ymchwilio, cofnodi a dogfennu teithiau, setlo/profiadau, traddodiadau a chyfraniadau'r genhedlaeth Windrush o'r Ynysoedd y Gorllewinol a setlodd yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot yn y 50au, 60au ac yn ddiweddarach.

Gyda chefnogaeth y Rheolwr Prosiect a'r artist arweiniol, gwnaeth y bobl ifanc gynllunio'r cwestiynau cyfweld, ffilmio'r cyfwelydd, golygu'r fideos, trawsgrifio'r fideos a dylunio'r llyfryn a gynhyrchwyd ar ddiwedd y prosiect. Roedd rhai o'r bobl ifanc hefyd yn cofnodi tystiolaeth o'u gwaith ar y prosiect a roddwyd tuag at gyflawni eu Gwobr Celf Arian.

  • 1,011
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 638
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 637
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 716
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 580
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi