Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales
Dyddiad ymuno: 17/02/10
Amdan
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yw llyfrgell adnau cyfreithiol cenedlaethol Cymru ac mae'n cael ei chynnal dan nawdd Llywodraeth Cymru. Hon yw'r Llyfrgell fwyaf yng Nghymru, gyda dros 6.5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, a'r casgliadau mwyaf o archifau, portreadau, mapiau a delweddau ffotograffig yng Nghymru. Mae'r Llyfrgell hefyd yn gartref i Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru, Archif Wleidyddol Cymru, Archif Lenyddol Cymru, a'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o bortreadau a phrintiau topograffyddol yng Nghymru.
Gwefan: https://www.llyfrgell.cymru/ (Yn agor mewn ffenestr newydd)