Teithwyr Ewropeaidd i Gymru, 1750-2010 // European Travellers to Wales, 1750-2010's profile picture

Teithwyr Ewropeaidd i Gymru, 1750-2010 // European Travellers to Wales, 1750-2010

Dyddiad ymuno: 04/10/17

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Mae 'Teithwyr Ewropeaidd yng Nghymru 1750-2010' yn brosiect tair blynedd a gyllidir gan yr AHRC ac a ddechreuwyd yn 2013. Yn y prosiect gwelir cydweithio rhwng Yr Athro Carol Tully o Brifysgol Bangor, Dr Kathryn Jones o Brifysgol Abertawe, a Dr Heather Williams o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Prifysgol Bangor sy'n ei arwain. Mae gan y prosiect Swyddog Ymchwil llawn-amser, Dr Rita Singer, wedi ei lleoli yn y Ganolfan Uwchefrydiau yn Aberystwyth, a dau fyfyriwr PhD, Anna-Lou Dijsktra (Abertawe) a Christina Les (Bangor).

Mae'r prosiect wedi dod ar draws nifer sylweddolo ddisgrifiadau o deithiau yng Nghymru yn y cyfnod hwn, y mwyafrif ohonynt wedi eu hysgrifennu mewn Ffrangeg neu Almaeneg. Cafodd llawer o'r disgrifiadau a restîr yn y gronfa ddata eu 'cuddio' mewn ysgrifeniadau am deithiau yn Lloegr. Ymchwiliodd y prosiect i amrywiaeth eang o ffynonellau, yn cynnwys taithlyfrau, arweinlyfrau, dyddiaduron, llythyrau a blogiau, mewn llawysgrifau a deunydd printiedig. Darganfu'r ymchwilwyr amrywiaeth mawr o resymau dros i deithwyr Ewropeaidd ddod i Gymru. Roedd rhai'n chwilio am ddihangfa ramantaidd ac eidylaidd, roedd eraill yn ysbiwyr diwydiannol yn oes Fictoria, ac yn ddiweddarach gwelwyd ffoaduriaid o'r Almaen Natsiaidd. Mae hyn yn ein helpu i ddeall Cymru'n well: mae storïau am ffoaduriaid ac alltudion wedi dod i'r amlwg, yn ogystal â stôr o ddisgrifiadau manwl am dirweddau, adeiladau a henebion ac adfeilion Cymreig. Mae'r rhain yn adnoddau hollol newydd ar gyfer astudio Cymru, ac yn genre ysgrifennu teithio i gynnwys mwy na phortreadau Saesneg yn unig o Gymru.

Crëwyd y wefan newydd, Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau hanesyddol o Ffrainc a'r Almaen, mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, CAWCS a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Dilynwch naw llwybr â thema a darganfod Cymru, ei threftadaeth, ei diwylliant a'i phobl. Profwch y wlad fel na wnaethoch o'r blaen drwy weithiau teithwyr hanesyddol. Ymchwiliwch i Abaty Tyndyrn sydd wedi'i orchuddio ag eiddew, rhyfeddwch ar awyr tanllyd Merthyr Tydfil yn y nos a syrthiwch mewn cariad gyda merched digon anarferol yn Llangollen.