Neidio i'r prif gynnwys
arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibalogopdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
People's Collection Wales Logo A vector graphics of the official People's Collection Wales Logo
  • English
  • Mewngofnodi
  • Cofrestru
  • Amdanom NiAmdan CYWC
  • Rhannugolygu a chreu
  • Y Casgliadpori a ffiltro
  • Mapiaucyfoes a hen
  • Cymorth
  • Addysgadnoddau dysgu
Hafan / Teithwyr Ewropeaidd i Gymru, 1750-2010 // European Travellers to Wales, 1750-2010
Darlun Teithwyr Ewropeaidd i Gymru, 1750-2010 // European Travellers to Wales, 1750-2010
Teithwyr Ewropeaidd i Gymru, 1750-2010 // European Travellers to Wales, 1750-2010

Dyddiad ymuno: 04/10/17

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Mae 'Teithwyr Ewropeaidd yng Nghymru 1750-2010' yn brosiect tair blynedd a gyllidir gan yr AHRC ac a ddechreuwyd yn 2013. Yn y prosiect gwelir cydweithio rhwng Yr Athro Carol Tully o Brifysgol Bangor, Dr Kathryn Jones o Brifysgol Abertawe, a Dr Heather Williams o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Prifysgol Bangor sy'n ei arwain. Mae gan y prosiect Swyddog Ymchwil llawn-amser, Dr Rita Singer, wedi ei lleoli yn y Ganolfan Uwchefrydiau yn Aberystwyth, a dau fyfyriwr PhD, Anna-Lou Dijsktra (Abertawe) a Christina Les (Bangor).

Mae'r prosiect wedi dod ar draws nifer sylweddolo ddisgrifiadau o deithiau yng Nghymru yn y cyfnod hwn, y mwyafrif ohonynt wedi eu hysgrifennu mewn Ffrangeg neu Almaeneg. Cafodd llawer o'r disgrifiadau a restîr yn y gronfa ddata eu 'cuddio' mewn ysgrifeniadau am deithiau yn Lloegr. Ymchwiliodd y prosiect i amrywiaeth eang o ffynonellau, yn cynnwys taithlyfrau, arweinlyfrau, dyddiaduron, llythyrau a blogiau, mewn llawysgrifau a deunydd printiedig. Darganfu'r ymchwilwyr amrywiaeth mawr o resymau dros i deithwyr Ewropeaidd ddod i Gymru. Roedd rhai'n chwilio am ddihangfa ramantaidd ac eidylaidd, roedd eraill yn ysbiwyr diwydiannol yn oes Fictoria, ac yn ddiweddarach gwelwyd ffoaduriaid o'r Almaen Natsiaidd. Mae hyn yn ein helpu i ddeall Cymru'n well: mae storïau am ffoaduriaid ac alltudion wedi dod i'r amlwg, yn ogystal â stôr o ddisgrifiadau manwl am dirweddau, adeiladau a henebion ac adfeilion Cymreig. Mae'r rhain yn adnoddau hollol newydd ar gyfer astudio Cymru, ac yn genre ysgrifennu teithio i gynnwys mwy na phortreadau Saesneg yn unig o Gymru.

Crëwyd y wefan newydd, Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau hanesyddol o Ffrainc a'r Almaen, mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, CAWCS a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Dilynwch naw llwybr â thema a darganfod Cymru, ei threftadaeth, ei diwylliant a'i phobl. Profwch y wlad fel na wnaethoch o'r blaen drwy weithiau teithwyr hanesyddol. Ymchwiliwch i Abaty Tyndyrn sydd wedi'i orchuddio ag eiddew, rhyfeddwch ar awyr tanllyd Merthyr Tydfil yn y nos a syrthiwch mewn cariad gyda merched digon anarferol yn Llangollen.

… Dangos mwyDangos llai

Gwefan: http://etw.bangor.ac.uk

    • Storïau (1)
  • Celfyddydau a Diwylliant

    • Celfyddydau a Diwylliant Arall (1)
  • Cymuned a Chymdeithasol

    • Cymdeithasau amaethyddol (1)
    • Cymuned a Chymdeithasol Arall (1)
  • Diwydiant a Masnach

    • Diwydiant arall (1)
  • Amgylchedd ffisegol

    • Cestyll a Caerau (1)
    • Dinasoedd, trefi a phentrefi (1)
    • Golygfeydd tirluniau (1)
    • Mynyddoedd/bryniau (1)
    • Afonydd/llynnoedd/argaeau (1)
    • Arfordir/y môr (1)

1 eitem wedi darganfod

  • (-) Remove Teithwyr Ewropeaidd i Gymru, 1750-2010 // European Travellers to Wales, 1750-2010
  • (-) Remove Story
EwrOlwg: Cymru drwy Lygaid Teithwyr Ewropeaidd,...

EwrOlwg: Cymru drwy Lygaid Teithwyr Ewropeaidd,...

  • Stori
  • [6 eitem]
  • 1,203
  • Teithwyr Ewropeaidd i Gymru, 1750-2010 // Europe...

Twitter Logo The Twitter Logo in vector format
RT @GlamArchives: Mae’r llun yma, tynnwyd ym 1921, yn dangos myfyrwyr Coleg Hyfforddi Morgannwg yn y #Barri. Sefydlwyd y coleg ym 191… https://t.co/hP5kiocBSC — 11 awr 29 mun yn ôl
mwy

Dilynwch ni ar:

  • Twitter Logo The Twitter Logo in vector format
  • Facebook Logo The Facebook Logo in vector format

Mwy amdanom ni, ein gwaith gyda grwpiau cymunedol, gwasanaethau a hyfforddiant

  • Hygyrchedd
  • Hawlfraint
  • Preifatrwydd
  • Map o'r Safle
  • Telerau
Noddir gan Lywodraeth Cymru | Sponsored by Welsh Government The Welsh Government Logo in vector format

01970 632 500 Ebost