Archif Ynys Sgomer's profile picture

Archif Ynys Sgomer

Dyddiad ymuno: 02/02/23

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Ynys oddi ar arfordir Sir Benfro, Gorllewin Cymru, ydy Ynys Sgomer. Mae'n adnabyddus am ei bywyd gwyllt: mae dros hanner poblogaeth y byd o Adar Drycin Manaw yn nythu ar yr ynys, dyma'r nythfa Palod fwyaf yn ne Prydain, ac mae llygoden Sgomer (isrywogaeth o'r llygoden bengron) yn unigryw i'r ynys, sydd bellach yn warchodfa natur genedlaethol ac yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Yn ogystal â’r byd natur, mae gan Sgomer hanes cymdeithasol cyfoethog gyda phobl wedi byw yno ers y cyfnod cynhanesyddol, yn ffermio ac yn cyfrannu at fywyd yr ynys ers milenia.

Mae Archif Ynys Sgomer yn dathlu perthynas pobl â’r ynys ers dros ganrif, o’r teuluoedd ffermio Fictoraidd i’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n parhau i ofalu am yr ynys a’i gwarchod heddiw. Cafodd y ffotograffau, llawysgrifau, dogfennau ac eitemau eraill hyn eu digido a’u catalogio gan wirfoddolwyr yn llyfrgell yr ynys, gyda’r deunydd gwreiddiol bellach wedi’i adleoli i ddiogelwch Archifau Sir Benfro yn Hwlffordd.

Er gwaethaf ymdrechion amrywiol i ddod o hyd i ddeiliad hawlfraint yr eitemau hyn, mae Friends of Skokholm and Skomer yn cydnabod bod llawer o'r cofnodion hyn yn parhau i fod yn 'weithiau amddifad'. Os oes gennych unrhyw wybodaeth bellach am berchnogaeth eitem, cysylltwch â ni drwy'r ddolen isod.

Gwefan: https://www.friendsofskokholmandskomer.org/ (Yn agor mewn ffenestr newydd)

  • 130
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 125
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 84
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 140
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 239
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 194
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 121
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 196
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 112
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 122
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 229
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 132
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi