Sea Empress Project 's profile picture

Sea Empress Project

Dyddiad ymuno: 07/11/16

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Brosiect ‘Sea Empress', prosiect hanes llafar a chelf cymunedol, gan Abigail Sidebotham, wedi’i gyflwyno ar y cyd â’r hanesydd Oriel Myrddin a Chyngor Sir Benfro, yn ystod cyfnod preswyl yn y Reading Room ym Maenorbŷr, Sir Benfro.
 
Trwy gydol y prosiect cynhelir nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus: sgyrsiau, gweithdai, dangosiadau ffilmiau ac arddangosfeydd yn y Reading Room, ynghyd â llunio pedwar cyhoeddiad SEA EMPRESS yn archwilio’r themâu canlynol: Llanw, Amser Dwfn, Animistiaeth a Cof.
 
Yn ogystal â hyn, hyfforddir gwirfoddolwyr i gynnal eu cyfweliadau hanes llafar eu hunain, gan greu archif ddigidol o atgofion y bobl am ollyngiad olew’r Sea Empress, a arddangosir yn y Reading Room, ac ar lein gan Gasgliad y Werin Cymru, a chedwir y deunydd yn archifau’r Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Dinbych-y- pysgod.
 
Nod y prosiect yw cynyddu dealltwriaeth o ollyngiad olew’r Sea Empress y tu hwnt i’r effaith economaidd ac ecolegol a thuag at y seicolegol a’r dirfodol, gan archwilio’r gwahanol ffyrdd o amgyffred a mynegi trychineb o’r fath, ar y pryd ac yn y cof.
 
 
  • 598
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi