arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
Darlun Swans100
Swans100

Dyddiad ymuno: 14/07/16

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, 1912-2012

Ariennir y prosiect Elyrch100 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae’n brosiect sydd yn archwilio, cadw a dathlu treftadaeth Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Mae’n nodi canmlwyddiant yr Elyrch yn 2012, ac yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe.

Yr ydym yn sefydlu archif ar-lein, fydd yn cynnwys atgofion cefnogwyr, ffotograffau a dogfennau hanesyddol eraill.  Trwy roi llais i ddilynwyr pêl-droed, mae’r prosiect yn archwilio ac yn dathlu’r berthynas rhwng Clwb Pêl-droed Abertawe a’r gymuned, ac yn creu cofnod parhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd yr archif ar-lein hefyd yn cynnwys taflenni a phecynnau addysgol yn esbonio ac yn ymchwilio lle’r clwb yn nhreftadaeth y gymuned leol.

Dim ond ym mis Ionawr 2012 y cychwynnodd y prosiect, felly mae’r wefan hon yn dal i fod yn gyfyngedig, ond mae’n tyfu trwy’r amser. Mae croeso i chi edrych o’i chwmpas ac yn enwedig i lenwi’r arolwg o atgofion cefnogwyr. (Mae yrarolwg yng Nhymraeg i gael yn Word hefyd.) 

Hoffem i bobl o bob oedran gofio am eu profiadau o fod yn selogion yr Elyrch.  Hoffem nodi’r holl bethau hynny y mae hanes fel arfer yn eu hanghofio – pam fod pobl o bell ac agos yn cefnogi clwb pêl-droed, eu hofergoelion a defodau bychain, sut mae cyd-bwyso gofynion pêl-droed, teulu, arian a phellter, pa fath o deimlad ydy ennill neu golli gêm 0 5-0, hyd yn oed sut oedd y toiledau yn y Vetch ers llawer dydd.

Beth bynnag eich stori, a beth bynnag y mae’r Elyrch yn ei olygu i chi, ein dymuniad yw cofnodi eich profiadau er mwyn i bobl eu darllen yn ystod ail ganrif y clwb. Does dim gwahaniaeth os ydych yn ddaliwr tocyn tymor neu yn gefnogwr dros y we. 

… Dangos mwyDangos llai

Gwefan: https://scfcheritage.wordpress.com/

  • 1,027
  • mewngofnodi
  • 686
  • mewngofnodi
  • 681
  • mewngofnodi
  • 691
  • mewngofnodi
  • 691
  • mewngofnodi
  • 629
  • mewngofnodi
  • 613
  • mewngofnodi
  • 563
  • mewngofnodi
  • 564
  • mewngofnodi
  • 552
  • mewngofnodi
  • 560
  • mewngofnodi
  • 700
  • mewngofnodi
  • 477
  • mewngofnodi
  • 602
  • mewngofnodi
  • 881
  • mewngofnodi
  • 639
  • mewngofnodi
  • 541
  • mewngofnodi
  • 616
  • mewngofnodi
  • 591
  • mewngofnodi
  • 582
  • mewngofnodi
  • 949
  • mewngofnodi
  • 626
  • mewngofnodi
  • 589
  • mewngofnodi
  • 493
  • mewngofnodi
  • 605
  • mewngofnodi
  • 514
  • mewngofnodi
  • 484
  • mewngofnodi
  • 508
  • mewngofnodi
  • 415
  • mewngofnodi
  • 443
  • mewngofnodi