Datgloi Achosion y Siartwyr's profile picture

Datgloi Achosion y Siartwyr

Dyddiad ymuno: 04/05/16

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Roedd Datgloi Achosion y Siartwyr yn rhan o brosiect 'Cynefin' gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri.

Roedd y prosiect yn trawsgrifio’r casgliad o Ymholiadau Ynadon mewn perthynas â Gwrthryfel y Siartwyr yn ne Cymru yn 1839. Roedd y dogfennau’n casglu ynghyd dystiolaeth llygad-dystion yn syth ar ôl gorymdaith y Siartwyr i Gasnewydd yn Nhachwedd 1839, a dyma oedd sail yr Achosion Llys am Deyrnfradwriaeth yn erbyn John Frost ac arweinwyr eraill y Siartwyr yn 1839-40.

Cafodd y prosiect ei ariannu gan arian torfol, gyda thrawsgrifiadau’n cael eu gwneud gan nifer o wirfoddolwyr o sefydliadau treftadaeth a chymdeithasau hanes lleol.

Gwefan: https://www.gwentarchives.gov.uk/cy/hafan/ (Yn agor mewn ffenestr newydd)

Popular Items

Cyfranwyr poblogaidd