Disgrifiad

Cynhaliwyd yr arddangosfa hon yn Anecs Oriel Gregynog yn Llyfrgell Gendlathol Cymru, 17/09/16 - 14/01/17."Ar fore dydd Gwener, 21 Hydref 1966, tarwyd pentref glofaol bychan yn ne Cymru gan drychineb. Gorchuddiwyd y cwm o amgylch Aberfan gan domenni uchel o wastraff o bwll glo Merthyr Vale gerllaw, ac, ychydig wedi 9 o'r gloch y bore, dechreuodd 'Tip 7' symud. Ymhen munudau rhuthrodd tirlithriad anferth o garreg a llwch glo i lawr y mynydd gan droi'n hylif o ganlyniad i'r dŵr oddi tano, a dinistrio popeth yn ei lwybr. Chwalwyd dau fwthyn fferm a nifer o dai gan 1,000 tunnell o rwbel glo cyn rhwygo drwy ochr Ysgol Gynradd Pantglas. Lladdwyd 144 o bobl, 116 ohonynt yn blant, gan ennyn ymateb emosiynol dwfn dros Gymru gyfan a thrwy'r gymuned ryngwladol. Rhuthrodd miloedd i helpu gyda'r gwaith achub, wrth i gydymdeimlad a chymorth ariannol gyrraedd o bell ac agos.Dros gyfnod o hanner can mlynedd ers yr Hydref du hwnnw, mae myrddiynau o gerddi, ffotograffau, cyfansoddiadau cerddorol a ffilmiau wedi coffáu'r drychineb a'r colledion. Heddiw edrychwn ar y drychineb, yr ymateb i'r digwyddiad erchyll, a choffáu drachefn."

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (1)

Type Tour of Wales's profile picture
Thank you for uploading this - such a wonderful thing to see. My grandfather's brother, John Morgan Edwards, died in Aberfan, along with cousins and friends. This is an incredible tribute.

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw