Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Y Teirw Scotch. Er fod nifer wedi cyfeirio at y Teirw Scotch mewn erthyglau a llyfrau nid ydynt yn adnabyddus i lawer. Ond 'roedd eu dylanwad yn bwysig iawn yn hanes Cymru yn ystod y Chwyldro Diwidianol yn anwedig cyn i'r Siartwyr ddod i sylw pawb yn y 1830au. Symudiad terfysgol oedd y Teirw Scotch yn lledu drwy dyffrynoedd Sîr Fynwy a Sîr Forganwg. Dyna lle 'roeddynt yn hawlio ffyddlondeb y glöwr a'r mwynwr yn yr ardal a alwyd y Parth Tywyll. Dyna gartref i ladron, llofruddwr a phob math o fywyd isel; ac i'r fan yma y dihangodd nifer oedd yn ceisio osgoi y gyfraith. Ceisio taro'n ol ar y pwer cyflawn oedd gan y meistri a pherchenogion y gweithfeydd dros y gweithwyr oedd pwrpas y Teirw Scotch. Heblaw eu bôd yn berchen ar y gweithfeydd 'roedd y meistri hefyd yn berchenogion siop y gwaith; yn meddu cartrefi'r gweithwyr; ag yn aml yn rheoli'r llywodraeth lleol ag 'roedd nifer hefyd yn eistedd fel ystus y llys. Nid oedd gan y gweithiwr unrhyw hawl o gwbl. 'Roedd yr hanesydd John Davies yn cyfeirio at y Teirw Scotch fel sefydliad oedd yn ceisio creu undod rhwng y dosbarth gwaith yn nyffrynoedd Sîr Fynwy drwy ofn. Y tro cyntaf ddaeth y Teirw Scotch i'r amlwg (yn ol Ness Edwards) oedd pan benderfynodd y Meistri Russell a Brown, perchenogion Gwaith Dûr y Blaina, ostwng cyflog y gweithwyr ond ar yr un amser yn cynnig benthyg arian iddynt ddwywaith neu dair gwaith yr wythnos os hoffent. Wrth gwrs 'roedd hyn yn creu dyled 'roedd rhaid i'r gweithiwr dalu'n ol a thrwy hyn yn clymu'r truan iw feistr. Digwyddodd hyn yn 1832 ond tybiai Evan Powell yn ei lyfr "Hanes Tredegar" eu bôd wedi dod i'r amlwg pan oedd prîs haearn ar y farchnad yn Llundain yn uchel ond nid cyflog y gweithwyr, 'roedd hyn rhwng 1817 i 1820. Pryd bynnag, ar noson o Fîs Chwefror yr 17eg, 1832 daeth criw o ddynion at ei gilydd wrth Pwll Cornish oedd ar y ffîn rhwng Brynmawr a Nant y Glo. Yr arweinydd oedd "Y Tarw" ag ar ol rhoi gorchymun i bob un i droi ei gôt y tu allan a baeddu eu gwynebau, i ffwrdd a nhw i drosglwyddo cosb. 'Roedd rhybudd yn cael ei roi yn gyntaf, peintio pen tarw ar ddrws y ty mewn paent côch gyda calon ar frîg bob corn y pen. Weithiau ysgrifennwyd y rhybydd a'i roi ar bolyn neu mynedfa i'r gwaith i rybuddio'r rhai oedd am dorri streic. Y gosb gan y Teirw Scotch oedd cael cweir eitha trwm, efallai torri coes neu fraich, dinistrio dodref y ty, torri ffenestri ag yn y blaen. Wrth gwrs 'roedd y fyddin yn cael eu galw i mewn i gadw trefn ag i geisio dal y terfysgwyr ond nid oedd neb am enwi unrhyw un. Un a gafodd ei gosbi oedd Evan Thomas o Frynmawr am gymeryd prentis heb gyniatad. Fe dorwyd ei fraich gyda bâr haearn, malwyd y dodrefn ag yn ol y wasg 'roedd ei wraig hefyd wedi cael niwed a hithau gyda baban yn eu breichiau. 'Roedd Evan Thomas wedi cael rhybudd ond wedi anwybyddu pob un. Mae mwy i stori'r Teirw Scotch ac mae nifer o erthyglau yw gael yn y wâsg or amser ag mae'n werth eu darllen. Yn y Blaina, mae arddangosfa am y Teirw Scotch yng Nghapel Salem.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw