Sesiynau Galw Heibio Ar-lein
301 wedi gweld yr eitem hon

Disgrifiad
Ydych chi am ddefnyddio Casgliad y Werin gyda'ch disgyblion, ond angen cymorth? Archebwch sesiwn gefnogaeth rithiol 1 wrth 1 am ddim heddiw!
Mae Casgliad y Werin yn dathlu hanes, diwylliant a phobl Cymru. Mae'n adnodd gwerthfawr o ddeunyddiau perthnasol lleol all helpu disgyblion i ddarganfod eu treftadaeth a datblygu dealltwriaeth o'u cynefin.
Gall disgyblion:
- Chwilio am gynnwys
- Cyhoeddi eu cynnwys eu hunain
- Datblygu sgiliau digidol
- Cyflawni anghenion y Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Pa gynnwys ydych chi wedi'i greu gyda'ch dosbarth allwch chi ei gyfrannu a'i rannu gyda Chymru a'r byd?
Cliciwch yma i archebu sesiwn gymorth hanner awr gyda Swyddog Addysg Casgliad y Werin, Catalena Angele. Cynhelir sesiynau ar Microsoft Teams a chânt eu teilwra i'ch anghenion.
Gall y sesiynau gynnwys:
- Taith rithiol o gynnwys Casgliad y Werin a'r Adran Addysg
- Sut i greu cyfrif a dechrau cyfrannu
- Sut i greu Casgliadau a Straeon
- Ble i weld ein cynnwys ar Hwb
- Hawliau digidol – sut all ein cynnwys gael ei ddefnyddio at ddibenion gwahanol
- Unrhyw beth arall!
Amser y sesiynau: Llun, Iau a Gwener, 3.30-4pm a 4.15-4.45pm
Cwricwlwm i Gymru 2022
Y Dyniaethau, Fframwaith cymhwysedd digidol
Y Cyfnod Sylfaen
Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd
Cyfnod Allweddol 2-4
Hanes
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw