arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Sesiynau Galw Heibio Ar-lein i Athrawon

68 wedi gweld yr eitem hon

Cover image

Disgrifiad

Ydych chi am ddefnyddio Casgliad y Werin gyda'ch disgyblion, ond angen cymorth? Archebwch sesiwn gefnogaeth rithiol 1 wrth 1 am ddim heddiw!

Mae Casgliad y Werin yn dathlu hanes, diwylliant a phobl Cymru. Mae'n adnodd gwerthfawr o ddeunyddiau perthnasol lleol all helpu disgyblion i ddarganfod eu treftadaeth a datblygu dealltwriaeth o'u cynefin. 

Gall disgyblion:

  • Chwilio am gynnwys
  • Cyhoeddi eu cynnwys eu hunain
  • Datblygu sgiliau digidol
  • Cyflawni anghenion y Fframwaith Cymhwysedd Digidol

 

Pa gynnwys ydych chi wedi'i greu gyda'ch dosbarth allwch chi ei gyfrannu a'i rannu gyda Chymru a'r byd?

 

Cliciwch yma i archebu sesiwn gymorth hanner awr gyda Swyddog Addysg Casgliad y Werin, Catalena Angele. Cynhelir sesiynau ar Microsoft Teams a chânt eu teilwra i'ch anghenion.

Gall y sesiynau gynnwys:

  • Taith rithiol o gynnwys Casgliad y Werin a'r Adran Addysg
  • Sut i greu cyfrif a dechrau cyfrannu
  • Sut i greu Casgliadau a Straeon
  • Ble i weld ein cynnwys ar Hwb
  • Hawliau digidol – sut all ein cynnwys gael ei ddefnyddio at ddibenion gwahanol
  • Unrhyw beth arall!

 

Amser y sesiynau: Llun, Iau a Gwener, 3.30-4pm a 4.15-4.45pm

 

Cwricwlwm i Gymru 2022

Y Dyniaethau, Fframwaith cymhwysedd digidol

Y Cyfnod Sylfaen

Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd

Cyfnod Allweddol 2-4

Hanes

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw