arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Croeso athrawon i adran Addysg wedi’u dylunio ar eich cyfer chi. Chwilio'r Adnoddau Dysgu fesul cyfnod allweddol isod, neu defnyddiwch blwch offer i athrawon am gymorth gyda sgiliau digidol a'r Fframwaith Cymhwysedd

Ysgol Rufeinig Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Ysgol Rufeinig

Yn yr ilyfr hwn byddwch yn darganfod pa fath o addysg yr oedd plant cyfoethog Rhufeinig yn ei chael. Byddwch hefyd yn cael cip ar gasgliadau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae fersiwn PDF (nid yw'n rhyngweithiol) yn ogystal os nad oes gennych chi iOS (Apple). Gall gael ei ddefnyddio fel adnodd ar ei ben ei hun ond mae ar ei orau law yn llaw a sesiwn chwarae rol ‘Grammaticus - Ystafell Ddosbarth Rufeinig’ yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.   Cyfod Allweddol 2 Hanes, Sgiliau llythrennedd, Sgiliau rhifedd   Pecyn Gweithgareddau Dysgu Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gasgliad o ddelweddau i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn. Mae'r casgliad yn cynnwys delweddau o'r adnodd, a rhai ychwanegol i wella profiad dysgu eich disgyblion.

Astudiaeth Achos: Llongddrylliad y Royal Charter  Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Astudiaeth Achos: Llongddrylliad y Royal Charter

Ar 25 a 26 Hydref 1859, cafwyd un o’r stormydd gwaethaf erioed yn hanes Prydain. Tarodd arfordir Cymru, gan suddo bron i 150 o longau. Yr enwocaf ohonynt oedd y llong stêm y Royal Charter, a ddrylliwyd ar arfordir Môn gan ladd 450. Mae llongddrylliadau’r Storm Fawr yn rhoi darlun unigryw o’r cyfnod Fictoraidd yng Nghymru, ac yn ffordd o archwilio ein cysylltiadau â gweddill y byd, diwydiannau coll y môr, a chymdeithas y cyfnod.Treuliodd tair ysgol o Ynys Môn fisoedd yn astudio llongddrylliad y Royal Charter mewn project oedd yn bartneriaeth rhwng Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). Gallwch ddarllen am eu project, casglu syniadau ar gyfer gweithgareddau dosbarth a gweld esiamplau o waith y disgyblion. Gallwch hefyd archwilio’r ffynonellau y buont yn eu defnyddio ar wefan Casgliad y Werin, gan gynnwys arteffactau aur hyfryd ac eitemau bob-dydd o longddrylliad y Royal Charter. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Sgiliau Llythrennedd, Sgiliau rhifedd Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Astudiaeth Achos: Mapio’r Model Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Astudiaeth Achos: Mapio’r Model

Roedd Mapio’r Model yn Broject rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ysgolion Creadigol Arweiniol Cymru a gynhaliwyd yn Ysgol Wirfoddol Eglwysig Y Model Caerfyrddin yn ystod Tymor y Gwanwyn 2018. Roedd y project yn gydweithrediad rhwng yr arlunydd Rowan O’Neill a Grŵp Creadigol Blwyddyn 4 yn Ysgol Y Model, ac fe’i cynlluniwyd mewn ymateb i’r briff a baratowyd gan yr ysgol: a all archwiliad o fapio dwfn drwy farddoniaeth a drama o Gymru wella hyder a sgiliau llafaredd a gwella gallu disgyblion ym Mlwyddyn 4 i feddwl yn greadigol?Her y project hwn oedd canfod ffyrdd newydd o fapio cysylltiadau rhwng yr ysgol a’r dref, gan gynnwys daearyddiaeth, hanes a chwedloniaeth. Y canlyniad oedd project ymchwiliol ar y cysyniad o fapio a oedd yn defnyddio Casgliad i gyhoeddi a chofnodi’r gwaith amrywiol a grëwyd yn ddigidol. Cyfod Allweddol 2Hanes, Daearyddiaeth, Sgiliau Llythrennedd, Sgiliau Rhifedd, Fframwaith Cymhwysedd Digidol Astudiaeth AchosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Ddôl Drefol Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Ddôl Drefol

Dysgwch am wenyn, bioamrywiaeth a sut i greu eich gweirglodd eich hun.Yn 2014, creodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Ddôl Drefol ar dir yr Amgueddfa, fel lloches i fywyd gwyllt yng nghanol y ddinas. Bwriad y pecyn hwn yw helpu athrawon ac addysgwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i baratoi at arwain ymweliad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ond gellir ei ddefnyddio i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt hefyd. Mae llawer o syniadau a gweithgareddau i fynd i’r afael â nhw cyn eich ymweliad, tra byddwch yn yr Amgueddfa ac yn ôl yn yr ysgol. Yng nghefn y pecyn, ceir adran adnoddau gyda thaflenni gwaith a gweithgareddau. Cyfnod SylfaenGwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd, Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu, Datblygiad mathemategol, Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Datblygu'r gymraeg Cyfnod Allweddol 2Gwyddoniaeth, Celf a dylunio, Daearyddiaeth, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, Sgiliau llythrennedd, Sgiliau rhifedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gasgliad o ddelweddau i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn. Mae'r casgliad yn cynnwys delweddau o'r adnodd, a rhai ychwanegol i wella profiad dysgu eich disgyblion.

Amser Golchi Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Amser Golchi

Llyfr rhyngweithiol am olchi dillad cyn dyfodiad y peiriant golchi. Ar gyfer defnydd eich dysgwyr; mae'n cynnwys gemau, deunydd archif a gweithgareddau awgrymedig. Mae fersiwn PDF (nid yw'n rhyngweithiol) yn ogystal os nad oes gennych chi iOS (Apple).Gall ei ddefnyddio ar ei ben ei hun, ond fe'i ddefnyddir orau i gyd-fynd gyda sesiynau diwrnod golch yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru, ble mae cyfle i gael tro ar rai o gamau'r broses. Cyfnod SylfaenGwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd, Llythrennedd, Rhifedd Gwaelod Cyfnod Allweddol 2Hanes, Llythrennedd, Rhifedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys.