arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Croeso athrawon i adran Addysg wedi’u dylunio ar eich cyfer chi. Chwilio'r Adnoddau Dysgu fesul cyfnod allweddol isod, neu defnyddiwch blwch offer i athrawon am gymorth gyda sgiliau digidol a'r Fframwaith Cymhwysedd

Ddôl Drefol Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Ddôl Drefol

Dysgwch am wenyn, bioamrywiaeth a sut i greu eich gweirglodd eich hun.Yn 2014, creodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Ddôl Drefol ar dir yr Amgueddfa, fel lloches i fywyd gwyllt yng nghanol y ddinas. Bwriad y pecyn hwn yw helpu athrawon ac addysgwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i baratoi at arwain ymweliad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ond gellir ei ddefnyddio i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt hefyd. Mae llawer o syniadau a gweithgareddau i fynd i’r afael â nhw cyn eich ymweliad, tra byddwch yn yr Amgueddfa ac yn ôl yn yr ysgol. Yng nghefn y pecyn, ceir adran adnoddau gyda thaflenni gwaith a gweithgareddau. Cyfnod SylfaenGwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd, Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu, Datblygiad mathemategol, Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Datblygu'r gymraeg Cyfnod Allweddol 2Gwyddoniaeth, Celf a dylunio, Daearyddiaeth, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, Sgiliau llythrennedd, Sgiliau rhifedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gasgliad o ddelweddau i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn. Mae'r casgliad yn cynnwys delweddau o'r adnodd, a rhai ychwanegol i wella profiad dysgu eich disgyblion.

Ditectifs y Deinosoriaid Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Ditectifs y Deinosoriaid

Chwiliwch am ffosil deinosor, dysgwch am fwyd y deinosoriaid a rhyfeddwch at ba mor fawr oedd traed T. rex drwy gyfrwng gemau a posau. Mae’n gyfle hefyd i gwrdd â’r deinosor Cymreig newydd, Dracoraptor hanigani.Lawrlwythwch yr iBook neu’r ffeil PDF ar eich dyfais symudol i ddarganfod mwy. Gallwch ei ddefnyddio adref, neu ddod ag ef i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i archwilio’r orielau. Y Cyfnod SylfaenGwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd, Datblygiad mathemategol Cyfnod Allweddol 2Gwyddoniaeth, Mathemateg Pecyn Gweithgareddau DysguCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gasgliad o ddelweddau i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn. Mae'r casgliad yn cynnwys delweddau o'r adnodd, a rhai ychwanegol i wella profiad dysgu eich disgyblion.

Amser Golchi Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Amser Golchi

Llyfr rhyngweithiol am olchi dillad cyn dyfodiad y peiriant golchi. Ar gyfer defnydd eich dysgwyr; mae'n cynnwys gemau, deunydd archif a gweithgareddau awgrymedig. Mae fersiwn PDF (nid yw'n rhyngweithiol) yn ogystal os nad oes gennych chi iOS (Apple).Gall ei ddefnyddio ar ei ben ei hun, ond fe'i ddefnyddir orau i gyd-fynd gyda sesiynau diwrnod golch yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru, ble mae cyfle i gael tro ar rai o gamau'r broses. Cyfnod SylfaenGwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd, Llythrennedd, Rhifedd Gwaelod Cyfnod Allweddol 2Hanes, Llythrennedd, Rhifedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys.