arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Croeso athrawon i adran Addysg wedi’u dylunio ar eich cyfer chi. Chwilio'r Adnoddau Dysgu fesul cyfnod allweddol isod, neu defnyddiwch blwch offer i athrawon am gymorth gyda sgiliau digidol a'r Fframwaith Cymhwysedd

Hanes Llafar: Canllaw i Ysgolion Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Hanes Llafar: Canllaw i Ysgolion

Mae hanes o'n cwmpas ym mhobman. Meddyliwch am eich teulu a'ch cymuned. Mae digon o straeon yno i lenwi llyfrgell. HANES LLAFAR yw enw'r math yma o hanes. Mae dogfennau a llyfrau yn aml yn canolbwyntio ar bobl a digwyddiadau enwog. Ond nid yw profiad a llais y mwyafrif yn cael ei gofnodi. Mae hanes llafur yn llenwi'r bylchau ac yn rhoi i ni hanes sy'n cynnwys pawb. Diolch i dechnoleg ddigidol, gall unrhywun gasglu hanesion llafar a'u rhannu gydag eraill. Mae'n gyfle gwych i ddatblygu sgiliau digidol a chyfweld wrth ddysgu am hanes. Gall feithrin hyder pobl ifanc a magu parch rhwng cenedlaethau. Mae'r canllaw wedi'i greu mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Hanes Llafar a Chasgliad y Werin Cymru. Mae'n cynnig cyngor defnyddiol ar gychwyn project hanes llafar yn eich ysgol neu gymuned.   Cyfod Allweddol 2, 3 & 4 Hanes, Sgiliau llythrennedd, Fframwaith Cymhwysedd Digidol   Pecyn Gweithgareddau Dysgu Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.

Cwrwgl Caerfyrddin Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Cwrwgl Caerfyrddin

Darganfyddwch arferion hen deuluoedd cyryglau Caerfyrddin, y ffordd o fyw, y mythau a’r chwedlau sy’n gysylltiedig â nhw, ac ofergoelion yr afon. Treiddiwch i fyd traddodiadol a helpu i gadw diwylliant hynafol yn fyw.   Cyfnod Allweddol 2 Hanes, Gwyddoniaeth, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Daearyddiaeth, Drama, Addysg Gorfforol, Llythrennedd, Fframwaith Cymhwysedd Digidol (Dinasyddiaeth, Rhyngweithio a chydweithio)   Pecyn Gweithgareddau Dysgu Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.

Astudiaeth Achos: Cynefin - Ein Croeso Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Astudiaeth Achos: Cynefin - Ein Croeso

Prosiect addysgu ffilm cymunedol yw Cynefin - Ein Croeso dan nawdd Ffilm Cymru Wales gyda chefnogaeth Michael Sheen a Sefydliad Celf Josef Herman. Mae tîm celfyddydau cymunedol Y Neuaddd Les Ystradgynlais wedi cydweithio ag Ysgol Maesydderwen, Ysgol Dyffryn Y Glowyr a theuluoedd o Syria sydd wedi ymsefydlu yn y dre, er mwyn adrodd hanesion ffoaduriaid ddoe a heddiw. Cydweithiodd y cwmni animeiddio gwobrwyog, Winding Snake Productions, â'r gymuned i greu dwy ffilm sy'n rhannu eu straeon am y croeso a roddwyd yn Ystradgynlais i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel. Enillodd y project hwn Wobr Ragoriaeth Ddigidol cystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2018. Noddwyd y wobr gan Gasgliad y Werin Cymru. Yn rhan o'r astudiaeth achos mae'r ddwy ffilm; Cynefin a Uncle Ahmad's Canaries yn ogystal â fideo o'r broses yn datgelu mwy am sut y cafodd y ffilmiau eu creu. Cliciwch ar y ddolen Casgliad 'Cynefin - Ein Croeso' isod i weld y tair ffilm.   Cyfnod Allweddol 2 & 3 Hanes, Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Sgiliau Llythrennedd   Astudiaeth achos Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Astudiaeth Achos: Mapio’r Model Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Astudiaeth Achos: Mapio’r Model

Roedd Mapio’r Model yn Broject rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ysgolion Creadigol Arweiniol Cymru a gynhaliwyd yn Ysgol Wirfoddol Eglwysig Y Model Caerfyrddin yn ystod Tymor y Gwanwyn 2018. Roedd y project yn gydweithrediad rhwng yr arlunydd Rowan O’Neill a Grŵp Creadigol Blwyddyn 4 yn Ysgol Y Model, ac fe’i cynlluniwyd mewn ymateb i’r briff a baratowyd gan yr ysgol: a all archwiliad o fapio dwfn drwy farddoniaeth a drama o Gymru wella hyder a sgiliau llafaredd a gwella gallu disgyblion ym Mlwyddyn 4 i feddwl yn greadigol?Her y project hwn oedd canfod ffyrdd newydd o fapio cysylltiadau rhwng yr ysgol a’r dref, gan gynnwys daearyddiaeth, hanes a chwedloniaeth. Y canlyniad oedd project ymchwiliol ar y cysyniad o fapio a oedd yn defnyddio Casgliad i gyhoeddi a chofnodi’r gwaith amrywiol a grëwyd yn ddigidol. Cyfod Allweddol 2Hanes, Daearyddiaeth, Sgiliau Llythrennedd, Sgiliau Rhifedd, Fframwaith Cymhwysedd Digidol Astudiaeth AchosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Ddôl Drefol Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Ddôl Drefol

Dysgwch am wenyn, bioamrywiaeth a sut i greu eich gweirglodd eich hun.Yn 2014, creodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Ddôl Drefol ar dir yr Amgueddfa, fel lloches i fywyd gwyllt yng nghanol y ddinas. Bwriad y pecyn hwn yw helpu athrawon ac addysgwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i baratoi at arwain ymweliad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ond gellir ei ddefnyddio i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt hefyd. Mae llawer o syniadau a gweithgareddau i fynd i’r afael â nhw cyn eich ymweliad, tra byddwch yn yr Amgueddfa ac yn ôl yn yr ysgol. Yng nghefn y pecyn, ceir adran adnoddau gyda thaflenni gwaith a gweithgareddau. Cyfnod SylfaenGwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd, Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu, Datblygiad mathemategol, Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Datblygu'r gymraeg Cyfnod Allweddol 2Gwyddoniaeth, Celf a dylunio, Daearyddiaeth, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, Sgiliau llythrennedd, Sgiliau rhifedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gasgliad o ddelweddau i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn. Mae'r casgliad yn cynnwys delweddau o'r adnodd, a rhai ychwanegol i wella profiad dysgu eich disgyblion.

Astudiaeth Achos: Beth oedd ysgol fel yn yr oes... Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Astudiaeth Achos: Beth oedd ysgol fel yn yr oes...

Diwrnod Meddiannu yn Amgueddfa Lleng Rhufeinig.Daeth disgyblion o Ysgol Gynradd Lodge Hill i Amgueddfa Leng Rufeinig Cymru fel rhan o Ddiwrnod Meddiannu Kids in Museums, 2017. Cymerwyd yr awenau ganddynt er mwyn dweud hanes ysgolion yn ystod yr oes Rhufeinig, Crëwyd y fidio a welir yma ganddynt wedi iddynt ei sgriptio a'i ffilmio. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Cyfrifiadeg, Sgiliau Llythrennedd Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Astudiaeth Achos: Bywyd Milwr Rhufeinig Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Astudiaeth Achos: Bywyd Milwr Rhufeinig

Fel rhan o ‘Kids in Museums Takeover Day’ yn 2015, caiff ddisgyblion o St Woolos daith o amgylch yr Amgueddfa, gan gynnwys ymweliad arbennig i'r ardal casglu 'tu ôl i'r llenni'. Roedd y plant yn gweld ac yn eu cynnal gwrthrychau Rhufeinig sydd ddim fel arfer yn cael eu gweld gan y cyhoedd. Gan ddefnyddio hyn roeddent wedi'i ddysgu fel ysbrydoliaeth, yna wnaeth y disgyblion, ysgrifennu, ffilmio a serennu yn yr ailddeddfiad gwych o fywyd milwr Rhufeinig. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Cyfrifiadeg, Sgiliau Llythrennedd Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Gwers 3: Cyhoeddi eich cynnwys eich hun gyda... Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Gwers 3: Cyhoeddi eich cynnwys eich hun gyda...

Cyhoeddi casgliad ar Casgliad y Werin Cymru sy’n cynnwys metadata da a gwybodaeth hawlfraint gywir. Cyfnod Allweddol 2Fframwaith Cymhwysedd Digidol.Dinasyddiaeth: 1.1. Hunaniaeth, delwedd ac enw da; 1.3 Hawliau digidol, trwyddedu a pherchnogaethRhyngweithio a chydweithio: 2.2 Cydweithio; 2.3 Storio a rhannuCynhyrchu: 3.2 Creu; 3.3 Gwerthuso a gwella Cynllun GwersCynllun gwers cyflawn. Gallwch ei ddilyn i’r llythyren neu ddewis elfennau a’i deilwra eich hun.Mae’n yn rhan o'r set o chwe gwers o'r enw Canllaw hwylus i hawlfraint a metadata. 

Gwers 2: Metadata - Chwilio am nodwydd mewn tas... Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Gwers 2: Metadata - Chwilio am nodwydd mewn tas...

Deall beth yw metadata a pham mae ei angen arnom. Cyfnod Allweddol 2Fframwaith Cymhwysedd Digidol.Dinasyddiaeth: 1.1 Hunaniaeth, delwedd ac enw da Cynllun GwersCynllun gwers cyflawn. Gallwch ei ddilyn i’r llythyren neu ddewis elfennau a’i deilwra eich hun. Mae’n yn rhan o'r set o chwe gwers o'r enw Canllaw hwylus i hawlfraint a metadata.

Gwers 1: Hawlfraint - Byddwch yn ymwybodol o’ch... Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Gwers 1: Hawlfraint - Byddwch yn ymwybodol o’ch...

Dysgwch sut mae hawlfraint yn diogelu pob gwaith creadigol ac yn atal eraill rhag ei ​​ddefnyddio heb ganiatâd y sawl a greodd y gwaith. Cyfnod Allweddol 2Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Dinasyddiaeth: 1.3 Hawliau digidol, trwyddedu a pherchnogaeth Cynllun GwersCynllun gwers cyflawn. Gallwch ei ddilyn i’r llythyren neu ddewis elfennau a’i deilwra eich hun. Mae’n yn rhan o'r set o chwe gwers o'r enw Canllaw hwylus i hawlfraint a metadata.

Prosiect John Piper: Ysgol Bodedern Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Prosiect John Piper: Ysgol Bodedern

Gwaith Celf gan Ysgol Bodedern wedi ei ysbrydoli gan waith John Piper

Gweithdy John Piper Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Gweithdy John Piper

Darluniau a cherddi wedi eu creu gan Ysgol Foel Gron ac Ysgol Llanbedrog, wedi eu hysbrydoli gan waith John Piper. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys lluniau o'u gwaith a dolenni i luniau o'r gwaith a'u hysbrydolodd nhw. Mae tasg digidol i'w gael hefyd a dolen i becyn addysg John Piper.

'Uffern Rhyfel' - Brwydr Coed Mametz a'r... Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
'Uffern Rhyfel' - Brwydr Coed Mametz a'r...

Celf wedi ei ysbrydol i gan frwydr Coed Mametz. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys adnodd dysgu gyda thasgau yn seiliedig ar y gwaith celf, yn ogystal â gwybodaeth am y gweithiau. Mae hefyd dolenni i gasgliadau perthnasol i Goed Mametz ar ein gwefan.   Cyfod Allweddol 2 & 3 Hanes, Cefl a dylunio, Sgiliau llythrennedd, Fframwaith Cymhwysedd Digidol   Pecyn Gweithgareddau Dysgu Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.

Astudiaeth Achos: Io Satwrnalia! Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Astudiaeth Achos: Io Satwrnalia!

Hanes y Satwrnalia. Mae’r fideo yn y pecyn addysg yma wedi cael ei greu gan Somerton Primary School fel rhan o Ddiwrnod Meddiannu Plant mewn Amgueddfeydd 2016. Gallwch ddod o hyd i ddolen i’r fideo isod, yn ogystal â dolen i gasgliad o wrthrychau a ddewiswyd gan yr Ysgol ar eu hymweliad a stori er mwyn darganfod mwy am yr ŵyl ganol gaeaf Rhufeinig, y Satwrnalia.Gallwch ddefnyddio’r adnoddau atodol er mwyn creu eich fideo eich hunain. Maent yn cynnwys templed ar gyfer bwrdd stori ac esiamplau o linellau a ddefnyddiwyd ar gyfer creu'r fideo hwn am y Satwrnalia. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Cyfrifiadeg, Sgiliau Llythrennedd Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Bywyd ar Ffrynt y Gorllewin Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Bywyd ar Ffrynt y Gorllewin

Llyfr rhyngweithiol am fywyd ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae fersiwn PDF (nid yw'n rhyngweithiol) yn ogystal os nad oes gennych chi iOS (Apple).   Cyfod Allweddol 2 Hanes, Cefl a dylunio, Sgiliau llythrennedd, Fframwaith Cymhwysedd Digidol   Pecyn Gweithgareddau Dysgu Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.