Croeso athrawon i adran Addysg wedi’u dylunio ar eich cyfer chi. Chwilio'r Adnoddau Dysgu fesul cyfnod allweddol isod, neu defnyddiwch blwch offer i athrawon am gymorth gyda sgiliau digidol a'r Fframwaith Cymhwysedd
23Teaching Resources
Y Cyfnod Sylfaen
Cyfnod Allweddol 2
Cyfnod Allweddol 3
CA4 & Bagloriaeth Cymru
ôl 16 a Bagloriaeth Cymru

Mae e-lyfr Angylion Cymru wedi’i ddylunio ar gyfer plant o 7 i 11 oed ac mae’n adrodd hanes Maelgwn yng Nghymru. Mae’r e-lyfr yn cynnwys gwybodaeth am ecoleg Maelgwn, hanes Maelgwn yng Nghymru, a sut mae pobl yn cydweithio i ddiogelu dyfodol y rhywogaeth hon yng Nghymru. Cewch fynediad at yr eLyfr ar wefan Prosiect Maelgi: Cymru Cyfod Allweddol 2 Gwyddoniaeth, Celf a Dylunio, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang Curriculum for Wales 2022 Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Y Celfyddydau Mynegiannol Pecyn Gweithgareddau Dysgu Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.

Casgliad o ddarluniau pensaernïol gan y pensaer o Gasnewydd, R.G. Thomas (1820 - 1883). Roedd Thomas yn bensaer a pheiriannydd a dreuliodd rhan fwyaf ei fywyd yn Awstralia, wedi iddo fudo o Brydain ym 1836. Daeth yn ôl i Brydain ym 1846, lle arhosodd am 15 mlynedd. Treuliodd ran fwyaf y cyfnod hwn yng Nghasnewydd, lle bu'n rhan o sawl project adeiladu amryfal; o system ddraenio ar ystâd tai i ddylunio bythynnod a filas, o siopau i ysgolion, eglwysi a neuaddau tref. Cyfod Allweddol 2 Celf a dylunio, Hanes Cyfod Allweddol 3, 4 Celf a dylunio Casgliad Rydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Dysgwch am wenyn, bioamrywiaeth a sut i greu eich gweirglodd eich hun.Yn 2014, creodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Ddôl Drefol ar dir yr Amgueddfa, fel lloches i fywyd gwyllt yng nghanol y ddinas. Bwriad y pecyn hwn yw helpu athrawon ac addysgwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i baratoi at arwain ymweliad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ond gellir ei ddefnyddio i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt hefyd. Mae llawer o syniadau a gweithgareddau i fynd i’r afael â nhw cyn eich ymweliad, tra byddwch yn yr Amgueddfa ac yn ôl yn yr ysgol. Yng nghefn y pecyn, ceir adran adnoddau gyda thaflenni gwaith a gweithgareddau. Cyfnod SylfaenGwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd, Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu, Datblygiad mathemategol, Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Datblygu'r gymraeg Cyfnod Allweddol 2Gwyddoniaeth, Celf a dylunio, Daearyddiaeth, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, Sgiliau llythrennedd, Sgiliau rhifedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gasgliad o ddelweddau i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn. Mae'r casgliad yn cynnwys delweddau o'r adnodd, a rhai ychwanegol i wella profiad dysgu eich disgyblion.

Beth allwn ni ei ddysgu am dirwedd Cymru drwy ymchwilio i weithiau celf Falcon Hildred?Mae’r adnodd dysgu yma’n helpu’r dysgwr i ateb y cwestiwn hwn, a datblygu dealltwriaeth o’r deunydd a ddefnyddiwyd ynghyd a chyfansoddiad, technegau a’r offer. Dilynwch y dolenni i’r casgliadau o’r gwaith wedi digideiddio er mwyn cefnogi eich astudiaethau a darganfod gwaith Falcon Hildred. Cyfnod Allweddol 2 & 3Celf a dylunio, Hanes, Daearyddiaeth, Cymry Enwog Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys.

Ffotograffydd ar ei liwt ei hun oedd John Cornwell. Yn y saithdegau a'r wythdegau cynnar, tynnodd nifer o ffotograffau o byllau glo, yn Ne Cymru a Chanolbarth Lloegr yn bennaf, a hynny ar yr wyneb a danddaear. Perffeithiodd dechneg o dynnu ffotograffau danddaear oedd yn defnyddio goleuadau cyffredin pwll glo, gan alluogi iddo dynnu lluniau hynod eglur o dalcenni glo, twnneli, siafftiau ac offer. Yn ogystal â thynnu ffotograffau mewn pyllau gweithredol, byddai hefyd yn cofnodi gweithfeydd segur, ar yr wyneb a danddaear. Roedd John Cornwell hefyd yn uchel ei barch ym maes archaeoleg ddiwydiannol. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar byllau glo Cymru a Lloegr. Mae hawlfraint ei ddelweddau o dde Cymru bellach ym meddiant Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Celf a dylunioCyfnod Allweddol 3Celf a dylunio CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Bethania oedd y capel Annibynwyr cyntaf i gael ei sefydlu ym mhlwyf Ffestiniog, ym 1818. Cafodd ei ailadeiladu ym 1839, a chofnodwyd yr adeilad hwn gan Falcon Hildred mewn cyfres gynhwysfawr o ddarluniau. Cafodd ei ddymchwel yn ddiweddarach (mae’r festri, ysgoldy a’r tŷ capel yn dal i sefyll). Y Cyfnod SylfaenDatblygiad creadigolCyfod Allweddol 2, 3, 4Celf a Dylunio CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Mae adeiladau diwydiannol yng nghefn gwlad wedi cael eu gwerthfawrogi’n fwy ers twf archaeoleg ddiwydiannol yn y 1950au a’r 1960au. Mae darluniau Falcon Hildred yn pwysleisio’r amrywiaeth eang oedd yn niwydiant cefn gwlad. Y Cyfnod Sylfaen Datblygiad Creadigol Cyfod Allweddol 2, 3, 4Celf a dylunio CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Mae adeiladau diwydiannol y 19eg a’r 20fed ganrif wedi bod dan fygythiad dros y 50 mlynedd ddiwethaf. Mae darluniau Falcon Hildred yn rhoi syniad da iawn o natur yr adeiladau hyn, sut yr oeddent yn gweithio a sut fywydau oedd gan y bobl oedd yn gweithio ynddynt. Y Cyfnod Sylfaen Datblygiad CreadigolCyfod Allweddol 2, 3, 4Celf a dylunio CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Roedd campau peirianyddol, yn enwedig ym maes trafnidiaeth, ymysg rhyfeddodau’r Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain. Roedd cofnodi manylion bob-dydd trafnidiaeth a pheirianneg – y rhwydwaith ar waith – yn bwysig i Falcon Hildred. Y Cyfnod Sylfaen Datblygiad Creadigol Cyfod Allweddol 2, 3, 4Celf a dylunio CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Mae eglwysi a chapeli yn aml yn rhai o adeiladau mwyaf trawiadol ein trefi. Yn anffodus maent hefyd ymysg yr adeiladau sydd dan fwyaf o fygythiad yn ddiweddar. Mae cofnod Falcon Hildred o rai o’r eglwysi a’r capeli hyn yn amhrisiadwy. Y Cyfnod Sylfaen Datblygiad Creadigol Cyfod Allweddol 2, 3, 4Celf a dylunio, Addysg Grefyddol CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Mae nifer o adeiladau cyhoeddus a masnachol Cymru dan fygythiad ailddatblygu. Y Cyfnod Sylfaen Datblygiad CreadigolCyfod Allweddol 2, 3, 4Celf a dylunio CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Dyma gasgliad o ddarluniau yn ymwneud â thai yng Nghymru gan yr artist Falcon Hildred. Y Cyfnod Sylfaen Datblygiad CreadigolCyfod Allweddol 2, 3, 4Celf a dylunio CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Darluniau Falcon Hildred sydd yn y casgliad hwn. Y Cyfnod Sylfaen Datblygiad CreadigolCyfod Allweddol 2, 3, 4Celf a dylunio CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Darluniau o Gasnewydd gan Falcon D. Hildred, 1988 Y Cyfnod SylfaenDatblygiad creadigolCyfod Allweddol 2, 3, 4Celf a dylunio CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Tirwedd llechi sydd dan sylw yn y darluniau hyn gan Falcon Hildred. Tirwedd o chwareli a thomenni, argaeau a sianeli dwr, tramiau, melinau a gweithdai. Y Cyfnod Sylfaen Datblygiad CreadigolCyfnod Allweddol 2, 3 a 4Celf a Dylunio CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Dyma gasgliad o weithiau celf gan artistiaid o Gymru yn yr ugeinfed ganrif. Y Cyfnod Sylfaen Datblygiad CreadigolCyfod Allweddol 2, 3, 4Celf a dylunio CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Casgliad o eitemau'n ymwneud â'r diwydiant crochenwaith ym Mwcle, Sir y Fflint. Y Cyfnod Sylfaen Datblygiad CreadigolCyfnod Allweddol 2Celf a dylunio, HanesCyfnod Allweddol 3 & 4Celf a dylunio CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Gwaith a luniwyd gan Ysgol Bodedern wedi selio ar waith John Piper.

Gwaith Celf gan Ysgol Bodedern wedi ei ysbrydoli gan waith John Piper

Darluniau a cherddi wedi eu creu gan Ysgol Foel Gron ac Ysgol Llanbedrog, wedi eu hysbrydoli gan waith John Piper. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys lluniau o'u gwaith a dolenni i luniau o'r gwaith a'u hysbrydolodd nhw. Mae tasg digidol i'w gael hefyd a dolen i becyn addysg John Piper.

Celf wedi ei ysbrydol i gan frwydr Coed Mametz. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys adnodd dysgu gyda thasgau yn seiliedig ar y gwaith celf, yn ogystal â gwybodaeth am y gweithiau. Mae hefyd dolenni i gasgliadau perthnasol i Goed Mametz ar ein gwefan. Cyfod Allweddol 2 & 3 Hanes, Cefl a dylunio, Sgiliau llythrennedd, Fframwaith Cymhwysedd Digidol Pecyn Gweithgareddau Dysgu Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.

Llyfr rhyngweithiol am fywyd ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae fersiwn PDF (nid yw'n rhyngweithiol) yn ogystal os nad oes gennych chi iOS (Apple). Cyfod Allweddol 2 Hanes, Cefl a dylunio, Sgiliau llythrennedd, Fframwaith Cymhwysedd Digidol Pecyn Gweithgareddau Dysgu Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.

Darganfyddwch dirluniau dramatig gogledd Cymru. Astudiwch baentiadau John Piper, ei dechnegau a lleoliadau gan ddefnyddio'r adnodd addysg a'r llyfryn gweithgareddau. Cyfod Allweddol 2 & 3Celf a dylunio, Daearyddiaeth, Sgiliau llythrennedd, Cymry enwogMae’r gweithgareddau wedi eu targedu at ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 a 3, ond gellir eu haddasu ar gyfer disgyblion hŷn. Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan.