Yr Holocost a Chymru: Kristallnacht 1

749 wedi gweld yr eitem hon

Cover image

Disgrifiad

Ar 9 a 10 Tachwedd 1938, cynhaliodd y gyfundrefn Natsïaidd gyfres o ymosodiadau o’r enw ‘pogroms’ yn erbyn y boblogaeth Iddewig yn yr Almaen a thiriogaethau eraill a feddiannwyd gan y Natsïaid. Daeth y digwyddiad hwn i gael ei adnabod fel Kristallnacht neu ‘Noson y Gwydr Toredig’ oherwydd y gwydr drylliedig a lenwodd y strydoedd ar ôl fandaliaeth a dinistr synagogau, busnesau a chartrefi a oedd yn eiddo i Iddewon. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio atgofion Julius Weil, a fu’n byw yng Nghymru, o’r digwyddiad dinistriol hwn. Bu farw Julius Weil yng Nghaerdydd yn 2021.

Delwedd uchod: Arnold Weil, Köln, Ebrill 1936. Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC).

 

Kristallnacht 1: Atgofion o Kristallnacht. 

Mae’r wers hon yn cyflwyno dysgwyr i Kristallnacht gan ddefnyddio tystiolaeth Julius Weil a ffotograffau a gwybodaeth arall. Gofynnir i fyfyrwyr ddefnyddio'r ffynonellau hyn i ysgrifennu adroddiad papur newydd.

 

Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.

 

Cyfnod Allweddol 4

Hanes, Sgiliau llythrennedd

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o ddau ar y testun 'Kristallnacht’. Dyma ddolen i'r adnodd arall yn y gyfres hon:

Kristallnacht 2

 

Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.

Lawrlwytho'r Adnodd Dysgu

Kristallnacht_L1_Cynllun_Gwers.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) Kristallnacht_L1_Taflen_Wybodaeth.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) Kristallnacht_L1_Lesson Plan.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) Kristallnacht_L1_Information Sheet.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw