Yr Holocost a Chymru: Caethiwo 'estron-elynion'
69 wedi gweld yr eitem hon

Disgrifiad
Ar ôl dechrau'r rhyfel ym mis Medi 1939, daeth holl Almaenwyr ac Awstriaid Prydain yn 'estron-elynion' a bu'n rhaid iddynt gofrestru gyda'r heddlu. Er bod y mwyafrif yn parhau i fod yn rhydd, yn ystod haf 1940, tynhawyd cyfyngiadau a chafodd degau o filoedd eu caethiwo. Mae'r wers hon yn archwilio rhai o'r effeithiau a gafodd y caethiwo ar fywydau pobl.
Delwedd uchod: Wilhelm Jondorf (1890-1957). The Fifth Columnist, Onchan, Ynys Manaw, 1940. Rhodd Mrs Betty Jondorf , Llundain. Casgliad o Yad Vashem Art Museum, Jerusalem.
Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.
Cyfnod Allweddol 4
Hanes, Sgiliau Llythrennedd
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr.
Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw