arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharetwitterwelsh-government

Croeso athrawon i adran Addysg wedi’u dylunio ar eich cyfer chi. Chwilio'r Adnoddau Dysgu fesul cyfnod allweddol isod, neu defnyddiwch blwch offer i athrawon am gymorth gyda sgiliau digidol a'r Fframwaith Cymhwysedd

Astudiaeth achos Llongddrylliad y Royal Charter  Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Astudiaeth achos Llongddrylliad y Royal Charter

Ar 25 a 26 Hydref 1859, cafwyd un o’r stormydd gwaethaf erioed yn hanes Prydain. Tarodd arfordir Cymru, gan suddo bron i 150 o longau. Yr enwocaf ohonynt oedd y llong stêm y Royal Charter, a ddrylliwyd ar arfordir Môn gan ladd 450. Mae llongddrylliadau’r Storm Fawr yn rhoi darlun unigryw o’r cyfnod Fictoraidd yng Nghymru, ac yn ffordd o archwilio ein cysylltiadau â gweddill y byd, diwydiannau coll y môr, a chymdeithas y cyfnod.Treuliodd tair ysgol o Ynys Môn fisoedd yn astudio llongddrylliad y Royal Charter mewn project oedd yn bartneriaeth rhwng Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). Gallwch ddarllen am eu project, casglu syniadau ar gyfer gweithgareddau dosbarth a gweld esiamplau o waith y disgyblion. Gallwch hefyd archwilio’r ffynonellau y buont yn eu defnyddio ar wefan Casgliad y Werin, gan gynnwys arteffactau aur hyfryd ac eitemau bob-dydd o longddrylliad y Royal Charter. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Sgiliau Llythrennedd, Sgiliau rhifedd Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Astudiaeth Achos Mapio’r Model Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Astudiaeth Achos Mapio’r Model

Roedd Mapio’r Model yn Broject rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ysgolion Creadigol Arweiniol Cymru a gynhaliwyd yn Ysgol Wirfoddol Eglwysig Y Model Caerfyrddin yn ystod Tymor y Gwanwyn 2018. Roedd y project yn gydweithrediad rhwng yr arlunydd Rowan O’Neill a Grŵp Creadigol Blwyddyn 4 yn Ysgol Y Model, ac fe’i cynlluniwyd mewn ymateb i’r briff a baratowyd gan yr ysgol: a all archwiliad o fapio dwfn drwy farddoniaeth a drama o Gymru wella hyder a sgiliau llafaredd a gwella gallu disgyblion ym Mlwyddyn 4 i feddwl yn greadigol?Her y project hwn oedd canfod ffyrdd newydd o fapio cysylltiadau rhwng yr ysgol a’r dref, gan gynnwys daearyddiaeth, hanes a chwedloniaeth. Y canlyniad oedd project ymchwiliol ar y cysyniad o fapio a oedd yn defnyddio Casgliad i gyhoeddi a chofnodi’r gwaith amrywiol a grëwyd yn ddigidol. Cyfod Allweddol 2Hanes, Daearyddiaeth, Sgiliau Llythrennedd, Sgiliau Rhifedd, Fframwaith Cymhwysedd Digidol Astudiaeth AchosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Tai a Chartrefi yn Amser y Tuduriaid Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Tai a Chartrefi yn Amser y Tuduriaid

Mewn pa fath o dai oedd pobl yn byw yn oes y Tuduriaid? Sut oedden nhw’n edrych? Sut fydden nhw’n cael eu hadeiladu ac o ba ddeunyddiau? Oedden nhw’n syml neu’n foethus? Edrychwch ar ffotograffau, darluniau a chynlluniau tai Tuduraidd. Datblygwch sgiliau cynllunio, meddwl a chyfathrebu a dysgu am fywyd yn oes y Tuduriaid.Adnodd dwyieithog. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Sgiliau llythrennedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. 

Abertawe Oes Fictoria - Pobl a’u Pethau Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Abertawe Oes Fictoria - Pobl a’u Pethau

Pa fath o bethau oedd yng nghartrefi pobl Abertawe ynghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Mewn amgueddfa, fe welwch bethau oedd gan bobl yn eu cartrefi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae rhai o’r rhain wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yn y teulu, rhai wedi’u canfod gan archaeolegwyr, rhai wedi’u prynu neu eu benthyg a rhai wedi’u rhoi’n rhodd i’r amgueddfa. Mae rhai’n ymwneud â gwaith pobl, roedd rhai’n cael eu defnyddio yn y cartref, a rhai’n eitemau ar gyfer hamdden.Mae pethau yn gallu dweud llawer am y ffordd yr oedd pobl yn byw, pa mor dlawd neu gyfoethog yr oeddent a pha fath o ddefnyddiau oedd ar gael. Cawn weld hefyd pa fath o bethau oedd yn cael eu prynu a’u gwerthu, eu defnyddio a’u trysori, a’u taflu neu eu colli gan bobl yn y gorffennol.Mae’r Gweithgaredd Dysgu hwn yn cynnwys popeth i gynnal sesiwn eich hun yn yr ystafell ddosbarth, a gallwch ei gysylltu â gweithdai i ysgolion yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Abertawe. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Cyfrifiadeg, Sgiliau llythrennedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 3 am 'Abertawe Oes Fictoria' ar gyfer CA2. 

Abertawe Oes Fictoria - Storïau Pobl Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Abertawe Oes Fictoria - Storïau Pobl

Pwy oedd Fictoriaid Abertawe? Sut y gallwn ni ddysgu am y bobl gyffredin oedd yn byw ac yn gweithio yn Abertawe yn y 1850au? Beth oedd Walter Butt yn ei wneud ag afal pîn? Pam gafodd Mrs Phillips ei beirniadu am werthu ffrwythau ddydd Sul?Mae’r Gweithgaredd Dysgu hwn yn edrych ar rai o’r ffynonellau sy’n rhoi cofnod bychan o ddigwyddiadau mywydau pobl na fyddem yn gwybod dim amdanynt fel arall ac mae’n annog y disgyblion i ddehongli’r ffynonellau ac i greu eu cymeriadau eu hunain. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Cyfrifiadeg, Sgiliau llythrennedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 3 am 'Abertawe Oes Fictoria' ar gyfer CA2. 

Gwaith Haearn Blaenafon CA3 Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Gwaith Haearn Blaenafon CA3

Archwiliwch y gwaith haearn ym Mlaenafon, un o safleoedd allweddol y Chwyldro Diwydiannol, sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd. Edrychwch ar gynlluniau, mapiau, ffotograffau ac adroddiadau i ddarganfod sut fywyd oedd gan y gweithwyr haearn. Gallwch archwilio’r newidiadau fu yng Nghymru rhwng 1760 a 1914, a datblygu sgiliau meddwl trwy ymchwil hanesyddol. Cyfnod Allweddol 3Hanes Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys.

Gwaith Haearn Blaenafon CA2 Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Gwaith Haearn Blaenafon CA2

Archwiliwch y gwaith haearn ym Mlaenafon, un o safleoedd allweddol y Chwyldro Diwydiannol, sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd. Edrychwch ar gynlluniau, mapiau, ffotograffau ac adroddiadau i ddarganfod sut fywyd oedd gan y gweithwyr haearn. Gallwch archwilio’r newidiadau fu yng Nghymru rhwng 1760 a 1914, a datblygu sgiliau meddwl trwy ymchwil hanesyddol. Cyfnod Allweddol 2Hanes Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys.

Ar Garreg Eich Drws - Llyfrau Log Ysgolion Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Ar Garreg Eich Drws - Llyfrau Log Ysgolion

Defnyddio archifau i ymchwilio i hanes lleol. Mae'r adnodd hwn yn edrych ar sut y gallwch ymchwilio i hanes eich ardal drwy ddefnyddio llyfrau log ysgolion fel math o ffynhonnell sydd ar gael mewn archifdai neu swyddfeydd cofnodion lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Mae'n rhan o gyfres sy'n ffurfio'r blociau adeiladu sylfaenol er mwyn cael gwybod am hanes lleol.Bwriedir i'r adnodd fod yn ganllaw i athrawon, i'w helpu i ddefnyddio ffynonellau cynradd yn yr ystafell ddosbarth. Gall yr adnodd helpu athrawon hefyd i weithio gyda'u harchifdy lleol i ddod o hyd i ffynonellau tebyg ar gyfer eu hardal eu hunain. Ei nod yw cyflwyno athrawon a myfyrwyr i'r mathau o ffynonellau archifol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hanes lleol ac i ymgyfarwyddo â ffurf, golwg a chynnwys y ffynonellau. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Sgiliau Llythrennedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 8 am 'Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol' ar gyfer CA2. 

Gymru adeg y Rhyfel - Caerdydd yn ystod yr Ail... Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Gymru adeg y Rhyfel - Caerdydd yn ystod yr Ail...

Sut oedd bywyd bob dydd yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd? Drwy ymchwilio i gopïau digidol o brif ffynonellau yn Archifau Morgannwg, bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth o fywyd bob dydd yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. I ddechrau, bydd y disgyblion yn penderfynu ar ba ddyddiad y dechreuodd y rhyfel, yna, byddan nhw'n ymchwilio i gyrchoedd awyr, pobl yn gorfod symud o'u cynefin, dogni a Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Sgiliau llythrennedd, Sgiliau rhifedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. 

Ar Garreg Eich Drws - Catalogau Gwerthu Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Ar Garreg Eich Drws - Catalogau Gwerthu

Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol. Mae'r adnodd hwn yn edrych ar sut y gallwch ymchwilio i hanes eich ardal drwy ddefnyddio catalogau gwerthu fel math o ffynhonnell sydd ar gael mewn archifdai neu swyddfeydd cofnodion lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Mae'n rhan o gyfres sy'n ffurfio'r blociau adeiladu sylfaenol er mwyn cael gwybod am hanes lleol.Bwriedir i'r adnodd fod yn ganllaw i athrawon, i'w helpu i ddefnyddio ffynonellau cynradd yn yr ystafell ddosbarth. Gall yr adnodd helpu athrawon hefyd i weithio gyda'u harchifdy lleol i ddod o hyd i ffynonellau tebyg ar gyfer eu hardal eu hunain. Ei nod yw cyflwyno athrawon a myfyrwyr i'r mathau o ffynonellau archifol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hanes lleol ac i ymgyfarwyddo â ffurf, golwg a chynnwys y ffynonellau. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Sgiliau Llythrennedd, Daearyddiaeth Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 8 am 'Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol' ar gyfer CA2. 

Ar Garreg Eich Drws - Cyfeiriaduron Masnach Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Ar Garreg Eich Drws - Cyfeiriaduron Masnach

Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol. Mae'r adnodd hwn yn edrych ar sut y gallwch ymchwilio i hanes eich ardal drwy ddefnyddio cyfeiriaduron masnach fel math o ffynhonnell sydd ar gael mewn swyddfeydd cofnodion ac archifdai lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Mae'n rhan o gyfres sy'n ffurfio'r blociau adeiladu sylfaenol er mwyn cael gwybod am hanes lleol.Bwriedir i'r adnodd fod yn ganllaw i athrawon, i'w helpu i ddefnyddio prif ffynonellau yn yr ystafell ddosbarth. Gall yr adnodd helpu athrawon hefyd i weithio gyda'u harchifdy lleol i ddod o hyd i ffynonellau tebyg ar gyfer eu hardal eu hunain. Ei nod yw cyflwyno athrawon a myfyrwyr i'r mathau o ffynonellau archifol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hanes lleol ac i ymgyfarwyddo â ffurf, golwg a chynnwys y ffynonellau. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Sgiliau Llythrennedd, Daearyddiaeth Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 8 am 'Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol' ar gyfer CA2. 

Ar Garreg Eich Drws - Ffotograffau Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Ar Garreg Eich Drws - Ffotograffau

Defnyddio archifau i ymchwilio i hanes lleol. Mae'r adnodd hwn yn edrych ar sut y gallwch ymchwilio i hanes eich ardal drwy ddefnyddio ffotograffau fel math o ffynhonnell sydd ar gael mewn archifdai a swyddfeydd cofnodion lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Mae'n rhan o gyfres sy'n ffurfio'r blociau adeiladu sylfaenol er mwyn cael gwybod am hanes lleol.Bwriedir i'r adnodd fod yn ganllaw i athrawon, i'w helpu i ddefnyddio prif ffynonellau yn yr ystafell ddosbarth. Gall yr adnodd helpu athrawon hefyd i weithio gyda'u harchifdy lleol i ddod o hyd i ffynonellau tebyg ar gyfer eu hardal eu hunain. Ei nod yw cyflwyno athrawon a myfyrwyr i'r mathau o ffynonellau archifol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hanes lleol ac i ymgyfarwyddo â ffurf, golwg a chynnwys y ffynonellau. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Sgiliau Llythrennedd, Daearyddiaeth Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 8 am 'Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol' ar gyfer CA2. 

Ar Garreg Eich Drws - Cofrestrau Plwyf Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Ar Garreg Eich Drws - Cofrestrau Plwyf

Defnyddio archifau i ymchwilio i hanes lleol. Mae'r adnodd hwn yn edrych ar sut y gallwch chi ymchwilio i hanes eich ardal drwy ddefnyddio cofrestrau plwyf fel math o ffynhonnell sydd ar gael mewn archifdai a swyddfeydd cofnodion lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Mae'n rhan o gyfres sy'n ffurfio'r blociau adeiladu sylfaenol er mwyn cael gwybod am hanes lleol.   Bwriedir i'r adnodd fod yn ganllaw i athrawon, i'w helpu i ddefnyddio prif ffynonellau yn yr ystafell ddosbarth. Gall yr adnodd helpu athrawon hefyd i weithio gyda'u harchifdy lleol i ddod o hyd i ffynonellau tebyg ar gyfer eu hardal eu hunain. Ei nod yw cyflwyno athrawon a myfyrwyr i'r mathau o ffynonellau archifol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hanes lleol ac i ymgyfarwyddo â ffurf, golwg a chynnwys y ffynonellau.   Cyfnod Allweddol 2Hanes, Sgiliau Llythrennedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 8 am 'Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol' ar gyfer CA2. 

Ar Garreg Eich Drws – Papurau Newydd Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Ar Garreg Eich Drws – Papurau Newydd

Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol. Mae'r adnodd hwn yn edrych ar sut y gallwch ymchwilio i hanes eich ardal drwy ddefnyddio papurau newydd fel math o ffynhonnell sydd ar gael mewn archifdai lleol a chenedlaethol neu swyddfeydd cofnodion yng Nghymru. Mae'n rhan o gyfres sy'n ffurfio'r blociau adeiladu sylfaenol er mwyn cael gwybod am hanes lleol.   Bwriedir i'r adnodd fod yn ganllaw i athrawon, i'w helpu i ddefnyddio prif ffynonellau yn yr ystafell ddosbarth. Gall yr adnodd helpu athrawon hefyd i weithio gyda'u harchifdy lleol i ddod o hyd i ffynonellau tebyg ar gyfer eu hardal eu hunain. Ei nod yw cyflwyno athrawon a myfyrwyr i'r mathau o ffynonellau archifol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hanes lleol ac i ymgyfarwyddo â ffurf, golwg a chynnwys y ffynonellau. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Sgiliau Llythrennedd, Daearyddiaeth Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 8 am 'Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol' ar gyfer CA2.

Ar Garreg Eich Drws – Mapiau Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Ar Garreg Eich Drws – Mapiau

Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol. Mae'r adnodd hwn yn edrych ar sut y gallwch ymchwilio i hanes eich ardal drwy ddefnyddio mapiau Arolwg Ordnans a mapiau'r degwm fel math o ffynhonnell sydd ar gael mewn archifdai neu swyddfeydd cofnodion lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Mae'n rhan o gyfres sy'n ffurfio'r blociau adeiladu sylfaenol er mwyn cael gwybod am hanes lleol.   Bwriedir i'r adnodd fod yn ganllaw i athrawon, i'w helpu i ddefnyddio prif ffynonellau yn yr ystafell ddosbarth. Gall yr adnodd helpu athrawon hefyd i weithio gyda'u harchifdy lleol i ddod o hyd i ffynonellau tebyg ar gyfer eu hardal eu hunain. Ei nod yw cyflwyno athrawon a myfyrwyr i'r mathau o ffynonellau archifol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hanes lleol ac i ymgyfarwyddo â ffurf, golwg a chynnwys y ffynonellau.    Cyfnod Allweddol 2Hanes, Sgiliau Llythrennedd, Daearyddiaeth Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 8 am 'Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol' ar gyfer CA2.

Ar Garreg Eich Drws - Ffurflenni’r Cyfrifiad Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Ar Garreg Eich Drws - Ffurflenni’r Cyfrifiad

Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol. Mae'r adnodd hwn yn edrych ar sut y gallwch ymchwilio i hanes eich ardal drwy ddefnyddio ffurflenni’r cyfrifiad fel math o ffynhonnell sydd ar gael mewn archifdai neu swyddfeydd cofnodion lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Mae'n rhan o gyfres sy'n ffurfio'r blociau adeiladu sylfaenol er mwyn cael gwybod am hanes lleol.   Bwriedir i'r adnodd fod yn ganllaw i athrawon, i'w helpu i ddefnyddio ffynonellau cynradd yn yr ystafell ddosbarth. Gall yr adnodd helpu athrawon hefyd i weithio gyda'u harchifdy lleol i ddod o hyd i ffynonellau tebyg ar gyfer eu hardal eu hunain. Ei nod yw cyflwyno athrawon a myfyrwyr i'r mathau o ffynonellau archifol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hanes lleol ac i ymgyfarwyddo â ffurf, golwg a chynnwys y ffynonellau.   Cyfnod Allweddol 2Hanes, Sgiliau Llythrennedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 8 am 'Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol' ar gyfer CA2.

Amser Golchi Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Amser Golchi

Llyfr rhyngweithiol am olchi dillad cyn dyfodiad y peiriant golchi. Ar gyfer defnydd eich dysgwyr; mae'n cynnwys gemau, deunydd archif a gweithgareddau awgrymedig. Mae fersiwn PDF (nid yw'n rhyngweithiol) yn ogystal os nad oes gennych chi iOS (Apple).Gall ei ddefnyddio ar ei ben ei hun, ond fe'i ddefnyddir orau i gyd-fynd gyda sesiynau diwrnod golch yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru, ble mae cyfle i gael tro ar rai o gamau'r broses. Cyfnod SylfaenGwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd, Llythrennedd, Rhifedd Gwaelod Cyfnod Allweddol 2Hanes, Llythrennedd, Rhifedd Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys.

Astudiaeth achos Beth oedd ysgol fel yn yr oes... Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Astudiaeth achos Beth oedd ysgol fel yn yr oes...

Diwrnod Meddiannu yn Amgueddfa Lleng Rhufeinig.Daeth disgyblion o Ysgol Gynradd Lodge Hill i Amgueddfa Leng Rufeinig Cymru fel rhan o Ddiwrnod Meddiannu Kids in Museums, 2017. Cymerwyd yr awenau ganddynt er mwyn dweud hanes ysgolion yn ystod yr oes Rhufeinig, Crëwyd y fidio a welir yma ganddynt wedi iddynt ei sgriptio a'i ffilmio. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Cyfrifiadeg, Sgiliau Llythrennedd Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Ymchwilio i Dirwedd Cymru – Lluniau Falcon Hildred Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Ymchwilio i Dirwedd Cymru – Lluniau Falcon Hildred

Beth allwn ni ei ddysgu am dirwedd Cymru drwy ymchwilio i weithiau celf Falcon Hildred?Mae’r adnodd dysgu yma’n helpu’r dysgwr i ateb y cwestiwn hwn, a datblygu dealltwriaeth o’r deunydd a ddefnyddiwyd ynghyd a chyfansoddiad, technegau a’r offer. Dilynwch y dolenni i’r casgliadau o’r gwaith wedi digideiddio er mwyn cefnogi eich astudiaethau a darganfod gwaith Falcon Hildred. Cyfnod Allweddol 2 & 3Celf a dylunio, Hanes, Daearyddiaeth, Cymry Enwog Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys.

 Astudiaeth achos Bywyd Milwr Rhufeinig Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Astudiaeth achos Bywyd Milwr Rhufeinig

Fel rhan o ‘Kids in Museums Take Over Day’ yn Dachwedd 2015 caiff ddisgyblion o St Woolos daith o amgylch yr Amgueddfa, gan gynnwys ymweliad arbennig i'r ardal casglu 'tu ôl i'r llenni'. Roedd y plant yn gweld ac yn eu cynnal gwrthrychau Rhufeinig sydd ddim fel arfer yn cael eu gweld gan y cyhoedd. Gan ddefnyddio hyn roeddent wedi'i ddysgu fel ysbrydoliaeth, yna wnaeth y disgyblion, ysgrifennu, ffilmio a serennu yn yr ailddeddfiad gwych o fywyd milwr Rhufeinig. Cyfnod Allweddol 2Hanes, Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Cyfrifiadeg, Sgiliau Llythrennedd Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Capeli ac eglwysi'r Wladfa  Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Capeli ac eglwysi'r Wladfa

Cyn gynted ag yr oeddynt wedi ymgartrefu yn Nyffryn Camwy ym 1865, dechreuodd y gwladfawyr gynnal gwasanaethau crefyddol ffurfiol yn y stordy pren syml a godwyd yng nghanol pentref Caer Antur. Roedd y Parchedigion Abraham Matthews a Lewis Humphreys (gweinidogion gyda'r Annibynwyr) yn cymryd eu tro i arwain y gwasanaethau bob yn ail fore Sul. Cyfnod Allweddol 3Hanes, Addysg Grefyddol Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o naw yn ymwneud â Phatagonia ar gyfer CA3.

Hanes yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia  Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Hanes yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia

Roedd allfudo yn agwedd bur gyffredin o fywyd Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyni economaidd oedd yn bennaf gyfrifol am achosi i filoedd o Gymry adael eu hardaloedd genedigol a cheisio bywyd gwell yn y Taleithiau Unedig. Eto, er bod gobaith am well safon byw yng Ngogledd America, roedd nifer o allfudwyr yn ymwybodol o'r perygl iddynt golli eu nodweddion Cymreig wrth iddynt ymdoddi i’r diwylliant Americanaidd. Sylwodd Michael D. Jones ar y duedd hon pan oedd ar ymweliad â’r Taleithiau Unedig ym 1848-9 a chafodd ei argyhoeddi bod angen sefydlu setliad Gymreig ym Mhatagonia i amddiffyn iaith, arferion a chrefydd ei gydwladwyr. Yng ngolwg Michael D. Jones, dim ond gwladfa lle rhoddid statws swyddogol i’r iaith Gymraeg a fyddai’n caniatáu i hunaniaeth genedlaethol yr ymfudwyr flodeuo’n ddirwystr.  Cyfnod Allweddol 3Hanes Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o naw yn ymwneud â Phatagonia ar gyfer CA3. 

Ysgolion cynnar y Wladfa - Patagonia Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Ysgolion cynnar y Wladfa - Patagonia

Yn fuan wedi i'r gwladfawyr cyntaf ymsefydlu yn eu cartref newydd ar lannau Afon Chupat, aethant ati i godi adeilad pren ar gyfer ysgol gyntaf y Wladfa. Cafodd y Parch. Lewis Humphreys, a ddeuai'n wreiddiol o Ganllwyd, ei benodi yn ysgolfeistr. Roedd plant o bob oed yn mynychu'r ysgol, ac yno caent addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyfnod Allweddol 3Hanes Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o naw yn ymwneud â Phatagonia ar gyfer CA3.

Dyddiau du - Llifogydd ac allfudo - Patagonia Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Dyddiau du - Llifogydd ac allfudo - Patagonia

I goroni’r cwbl, cafodd Dyffryn Camwy ei daro ym 1899 gan y llifogydd gwaethaf ers i'r Cymry ymsefydlu yno ym 1865. Yn ôl adroddiadau ar y pryd, bu'n bwrw glaw yn Nyffryn Camwy am dros dair wythnos, gan achosi i lefel yr afon godi ar gyfradd o bymtheg modfedd pob deuddeng awr. Difrodwyd cartrefi ac eiddo'r ymsefydlwyr a bu'n rhaid iddynt ffoi i dir uwch er mwyn diogelwch.  Cyfnod Allweddol 3Hanes Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o naw yn ymwneud â Phatagonia ar gyfer CA3.

O ddyffryn Camwy i Gwm Hyfryd - Patagonia  Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
O ddyffryn Camwy i Gwm Hyfryd - Patagonia

Ar ddechrau'r 1870au cododd awydd ymhlith rhai o'r gwladfawyr mwyaf anturus i archwilio'r tiroedd eang a oedd yn amgylchynu'r Wladfa.   Cyfnod Allweddol 3Hanes Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o naw yn ymwneud â Phatagonia ar gyfer CA3.

Cyn Rhyddid, Treftadaeth Jazz Cymru Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Cyn Rhyddid, Treftadaeth Jazz Cymru

Mae’r pecyn hwn yn adrodd hanes Willis, caethwas a gyrhaeddodd yn Abertawe ar 2il Chwefror 1833, ac a gafodd ei ryddhau. Drwy osod y stori yng nghyd-destun y Fasnach Caethweision a’r Cymry a’r bobl eraill a helpodd dod ag ef i ben, fe ddaw'r stori'n berthnasol i blant yr oes sydd ohoni. Cyfnod Allweddol 2Hanes  Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnoddau hyn yn annibynnol, a byddem yn ddiolchgar pe gallech gydnabod Treftadaeth Jazz Cymru wrth eu defnyddio, a bod ffurflenni gwerthuso’n cael eu llenwi a’u hanfon at [email protected] 

Dyddiau cynnar ar dir Patagonia Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Dyddiau cynnar ar dir Patagonia

Yn fuan wedi i'r 'Mimosa' fwrw ei angor yn y Bae Newydd ar 27 Gorffennaf 1865, penderfynodd y Capten George Pepperrell, y meddyg Thomas Greene, a thua hanner dwsin o'r dynion adael y llong ac archwilio'r tir. Yn ôl yr hanes, Hugh Hughes (Cadfan Gwynedd) oedd y cyntaf o'r ymfudwyr i roi ei draed ar dir Patagonia. Cyfnod Allweddol 3Hanes Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o naw yn ymwneud â Phatagonia ar gyfer CA3.

Brodorion Patagonia a'r gwladfawyr Cymreig Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Brodorion Patagonia a'r gwladfawyr Cymreig

Nid y Cymry oedd y bobl gyntaf i fyw ym Mhatagonia. Am ganrifoedd, bu brodorion yn byw yno yn •ôl eu harferion eu hunain. Un o’r llwythau hyn oedd y 'Tehuelche', a deuent o ardal rhwng Culfor Magellan a’r Afon Negro ym Mhatagonia. Cyfnod Allweddol 3Hanes Pecyn Gweithgareddau Dysgu Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o naw yn ymwneud â Phatagonia ar gyfer CA3.

Casgliadau Patagonia Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Casgliadau Patagonia

Cysylltiadau dysgu ar gyfer nifer o gasgliadau ar Batagonia. Cyfod Allweddol 3Hanes, Daearyddiaeth, Addysg Grefydol, Y Gymraeg CasgliadRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Patagonia - Mordaith y 'Mimosa', 1865 Cover Image Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item
Patagonia - Mordaith y 'Mimosa', 1865

Ar 28 Mai 1865, cychwynnodd y fintai o ymfudwyr Cymreig ar eu taith hir o Lerpwl i Batagonia. Er bod y 150 o deithwyr a oedd ar fwrdd y 'Mimosa' yn siwr o fod yn teimlo'n bryderus yngl~n â'r fordaith, buasent hefyd wedi bod yn falch bod yr holl ddisgwyl drosodd a'u bod yn cychwyn eu siwrnai i Dde America. Cyfnod Allweddol 3Hanes Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o naw yn ymwneud â Phatagonia ar gyfer CA3.