Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cafodd y Certificate of Nationality and Identity Issued to a British Colonial Seaman ei rhoi yn Kingstown (Port Royal gynt), Jamaica, i John Freeman ar 18 Ionawr 1937. Mae’r ddogfen yn nodi ei fod yn 'BRITISH SUBJECT BY BIRTH' ac, yn y categori 'Race and Caste (or Tribe and Sub-Tribe)', fel 'West-Indian'.

Ganwyd John Freeman yn Port Royal ar 15 Medi 1899. Enw ei dad oedd Thomas Freeman. Erbyn rhoi’r dystysgrif ym 1937 roedd Thomas Freeman wedi marw. Nid oedd y tystysgrifau hyn a roddwyd i longwyr Prydeinig yn cynnwys lle i enw’r fam ac felly ni wyddom ddim am fam John Freeman.

Mae ffotograff portread o John Freeman ar y dystysgrif, ynghyd â’i lofnod ac ôl ei fawd chwith. Cafodd rhif y dystysgrif hon ei roi hefyd ar Dystysgrif Rhyddhad Barhaus John Freeman gan heddwas yng Nghaerdydd ar 6 Mawrth 1937 er mwyn gwirio ei ddinasyddiaeth Brydeinig yn ei ddogfennau Llynges Fasnachol.

Beryl Makkers (Freeman cyn priodi), merch John Freeman, a ddaeth â’r ddogfen hon i sylw Prosiect Llongau-U 1914-18 ac a roddodd ganiatâd i ni ei sganio.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw