Disgrifiad

Project treftadaeth Gymreig ynghylch Plasty'r Fan gan ddosbarth 3H, Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin, Caerffili. Plasty Tuduraidd yw Plasty'r Fan, a gellir ei weld o faes parcio'r ysgol. Bu plant blwyddyn 3 yn ymchwilio i hanes y plasty, y Tuduriaid a'r cysylltiad â Chastell Caerffili. Bu'r disgyblion hefyd yn helpu i greu tudalen wych ar wefan yr ysgol ar gyfer y project, yn ogystal â thaflen wybodaeth er mwyn i'r gymuned gael dysgu am y pwnc. Enillodd y project hwn Wobr Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2017.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw