arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.

Delwedd 1:Download link to the full resolution of image number 1
full resolution of image 1
Delwedd 2:Download link to the full resolution of image number 2
full resolution of image 2

Disgrifiad

Tud 647
Trawsgrifiad:
gwaeth y Sul dyna oedd ein hanes ni pan yn blant ac am flynyddoedd wedyn. Nid oedd cwestiwn yn codi o beidio mynd i’r capel, bore pnawn na’r nos, neu obaith i osgoi y seiat, cyfarfod gweddi, gymdeithas etc. Y gwir ydoedd ein bod yn mynychu fel yr oeddem yn mynd i’r ysgol ddyddiol, derbyn yr arferiad fel rhan naturiol o’n bywyd. Ond salwch neu anhwylder eithriadol yn torri ar yr arferiad, a phan yr oedd hyn yn digwydd yr oeddem yn teimlo yn euog ac fod rhywbeth o’i le. Yr oedd yn arferiad mor ddyfn ynom ac yn rhan o’n bodolaeth fel nad oeddyn yn gwrthwynebu o gwbl. Yr oedd ein ffrindiau chwarel, brodyr etc i gyd yn mynd ac od fyddai i ni beidio, ac yr oeddem yn anymwybodol o drefn arall, ac yn cael llawer o hwyl yn y “caethiwed” od. Yr oedd eithaf brwdfrydedd yn weithgarwch yr eglwysi yn ystod yr wythnos waith, bron bob achos yn cynnal Cymdeithas Lenyddol, ac yr oedd cryn gystadleuaeth ac eiddigedd yn bodoli rhwng rhai. Yr oedd cyfarfodydd pregethu a’r Cymanfaoedd yn parhau i ddenu y torfeydd, er hynny colli aelodaeth oedd pob achos yn raddol, ac mawy o seddau gwag o flwyddyn i flwyddyn. Erbyn 1920 pan ddechreuais yn y Chwarel yr oedd y “cancar” yn dechrau ymddangos, ac erbyn y tridegau yr oedd effaith y gwrthgilio a’r difaterwch yn amlwg iawn.
Rhwng 1920 -30 pan oedd eithaf brwdfrydedd ynglyn a Cymanfa bregethu y Pasg a’r Sulgwyn, a Cymanfaoedd canu capel Jerusalem ac Bethesda ac yn sicr Cymanfa Ganu y Sir gan yr Annibynwyr, brwdfrydedd achlysurol dros dro ydoedd

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw