arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.

Delwedd 1:Download link to the full resolution of image number 1
full resolution of image 1
Delwedd 2:Download link to the full resolution of image number 2
full resolution of image 2

Disgrifiad

Tud 408
Trawsgrifiad:
Oherwydd ein bod yn ifanc feallai nad oeddem yn cymeryd diddordeb na ymgais i ddilyn y bregeth yn ddiwinyddol. Ond yr oedd y torfeydd yn dylifo iddynt a rhaniad yn y 4 ardal a’r chwareli, ac yr oedd canu da ac hwyliog, yr oedd cynesrwydd, cysgod a golau ac yr oedd yn entertainment rhad ac rhywle i fynd ac yr oedd yn newid o grwydro y caeau etc yn gyffiniau Pant.
Yr oedd cyfarfod pregethu yn ein capel ni yn flynyddol. Yr oedd yr enwad Annibynwyr yn yr ardal yn trefnu ei cymanfa bregethu ar y Pasg : dechrau nos Sadwrn a thrwy y Sul a’r dydd Llun. Yn raddol fe wnaed i ffwrdd a’r cyfarfodydd dydd Llun. Yr oedd 5 neu 6 o addoldai yr enwad yn y Gymanfa, a thaflen yn cael ei thynnu aqllan. Yr oedd yr hoelion with oedd wedi eu gwadd gan y gwahanol gapeli yn pregethu yn y gwahanol gapeli yn ol y trefniant, ond eu bod yn pregethu nos Sul y Pags gyn y capel oedd wedi eu gwahodd. Felly yr oedd yn bosib clywed 5 neu 6 o’r “hoelion wyth” yn ystod y Gymanfa, pregethwyr mawr fel Elved Lewis, D.J. Lewis Tumble, Gwilym Rees Halifax etc.
Nid oedd obaith osgoi y cyfarfodydd arbennig yma. Feallai y cawsem faddeuant ac osgoi cyfarfod pnawn a nos Lun. Yr oeddent yn wahanol i cyfarfodydd wythnosol undonog ni, yr oedd llawer mwy o gymhelliad : ac nos Sul mi fyddai y capel yn llawn, ac yr oedd yn newid gweld wynebau dieithr a’r llofft yn llawn yn lle yn hollol wag. Hefyd yr oedd “rheswm” i berswadio ein rhieni i ni gael treat a cael mynd i eistedd i’r llofft, yn lle bod yn garcharorion yn ein sedd arferol y Sul cyffredin. Ar ol taer erfyn weithiau yr oedd ein rhieni yn ildio wedi sicrhau fod hwn a hwn yn cael mynd

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw