arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.

Delwedd 1:Download link to the full resolution of image number 1
full resolution of image 1
Delwedd 2:Download link to the full resolution of image number 2
full resolution of image 2

Disgrifiad

Tud 404 Trawsgrifiad: Yr oedd gweithrediadau y capel yn mynd a llawer o’n hamser wrth gwrs. Yr oedd bron pawb yn gysylltiol a chapel neu eglwys , ac yn ol arfer y cyfnod yr oedden yn mynychu y cyrddau heb rwgnach ac yn naturiol. Yr oedd pawb yn mynd ac peth od fyddai i ni beidio, yr oedd ein cyfeillion i gyd yn mynychu cyfarfodydd y capel neu’r eglwys, y mwyafrif ohonom yn Ymneilltuwyr , ac nifer dda o’n “mates” agosaf yn aelodau o’r un capel, sef Treflys, Gerlan. Felly yr oeddem yn cael cadw yn ein cylch a cael cwmni ein gilydd a lot o hwyl ym mywyd y capel. R oeddem pawb o’r plant ar yr aelwyd yn mynd i’r capel dair gwaith y Sul ac weithiau yn amlach os oedd rhywbeth arbennig.. Nid oedd yn ystyriaeth o beidio a mynd yn croesi ein meddwl. Yr oeddem yn mynd i’r capel mor reolaidd ac yr oeddem yn mynd i’r Ysgol ddyddiol, dim cwestiwn o beidio mynd o gwbwl, ac ychydig iawn yr ydwyf yn gofio i ni fod yn sal, ac nid wyf yn cofio id dim llai na “tymestl” ein cadw gartref. Yr oedd ein cartref yn fychan, un ystafell fyw gweddol eang ! ac dwy shambar ac yr oedd yn rhaid cael gwared a ni “oddi ar y ffordd” iddi gael cario ymlaen hefo gwaith a gwneud cinio ar ein cyfer wed ii ni ddod adref. Yn ystod yr wythnos yr oedd Seiat neu Gyfarfod Gweddi, Band of Hope, feallai Cymdeithas, ac rhwng holl weithrediadau y capel ac adyniadau “allanol” yr oedd digon i fynd a’n bryd, ac bywyd yn eithaf llawn a prysur, a diddorol. Yn flynyddol yr oedd Cymanfa ganu y plant yn cael ei chynnal yn Bethesda a Bangor bob yn ail. Yr oedd yn arfer i practeisio a cael cyrddau Canu ac rihyrsals, er dod yn gyfarwydd

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw