arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Mari Lwyd yw'r enw a roed fynychaf yng Nghymru ar y pen neu ffigur ceffyl yr arferai partïon 'canu gwaseila' ei gludo o ddrws i ddrws yn ystod tymor y Nadolig. Y mae'r ffigur yn ddigon adnabyddus yn nefodau tymhorol gwledydd eraill. Ymddengys fod y 'Fari Lwyd' yn adnabyddus iawn ar un adeg yn hanner deheuol Cymru ond erbyn yr ugeinfed ganrif anaml y'i gwelwyd y tu allan i Forgannwg, lle nad yw eto wedi llwyr ddiflannu.

Cafodd y darlun lliw hwn o'r Fari Lwyd ei wneud gan Thomas Davies, Pen-tyrch, ym 1932, ac mae'n dangos y Fari Lwyd a ddefnyddiwyd gan ei deulu er 1897. Byddai lliain gwyn yn cael ei osod dros y benglog a'i addurno gyda rhubanau lliw, gyda llygaid gwydr. Mae'r 'Fari Lwyd' wreiddiol bellach i'w gweld yn y brif oriel arddangos yn Amgueddfa Werin Cymru.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw