Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o Bayough, Louisiana, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 12 Hydref 1863 [tudalen 1 o 3]

Disgrifiadau

Mae John wedi derbyn llythyr yn dweud fod Owen (ei frawd) yn wael ac mae'n gobeithio ei fod yn well erbyn hyn.
Mae John yn mynd ati i ddisgrifio eu taith ddiweddaraf gan ddweud eu bod wedi cychwyn o New Orleans ar y pedwerydd o'r mis ac wedi mynd yn y 'cars' i Brasier City. Cychwynasant o'r fan honno ar y seithfed o'r mis gan gerdded deunaw milltir drwy gors fawr ar y diwrnod cyntaf. Bu rhaid i John deithio pedair milltir ar bymtheg ar yr ail ddiwrnod , un ar hugain milltir drwy'r paith ar y trydydd diwrnod, a thri deg milltir ar y bedwaredd diwrnod. Mae'n disgwyl teithio can milltir eto cyn gweld unrhyw wrthryfelwyr. Dywed John ei fod yn teimlo'n well pan yn ymdeithio na phan yn gwersylla. Ar hyn o bryd maent yn gwersylla yn agos i Vermillionville ac mae 'n disgwyl aros yno am ddiwrnod neu ddau.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26203
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
12/10/1863
Gwelediadau:
427
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment