Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll ger Orleans Newydd, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 26 Medi 1863 [tudalen 1 o 2]

Disgrifiadau

Dywed John ei fod ef a John [W. Jones] yn cael pleser mawr wrth drafod pynciau ysbrydol. Mae'n dweud fod John yn weddol iach er ei fod yn dioddef weithiau o'r cryd. Mae Doctor Angel wedi dychwelyd atynt ac maent yn falch iawn o gael gwared o'r doctor arall. Maent yn disgwyl Dr Wood yn ôl tua diwedd y mis. Mae eu brigâd nhw wedi teithio rhyw gan milltir fyny'r afon i Gaer Donaldsonville ac mae'n sôn fod y gwrthryfelwyr yn bygwth ymosodiad yno a bod amryw wedi eu lladd neu eu clwyfo. Yn ôl John, mae y Cadfridog Burbridge wedi mynd yno ei hun ac mae'n siŵr o ddarganfod y gwrthryfelwyr os ydynt yn yr ardal. Mae'n disgwyl iddynt ddychwelyd mewn pump i chwe diwrnod ac mae o a John wedi aros i gadw llygad ar bethau. Mae'r tywydd yn sych ac yn braf ac mae dŵr yr afon yn isel.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26197
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
26/9/1863
Gwelediadau:
269
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment