Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll ger New Orleans, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 27 Awst 1863 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Dywed John eu bod wedi cyrraedd y lle yma fore ddoe ar ôl dau ddiwrnod a noson o daith o Vicksburg. Maent y gwersylla yn Carlton, tref tua pedair milltir i'r gorllewin o New Orleans. Dywed ei fod yn le hardd a'i fod am fynd i New Orleans yfory er mwyn gweld y dref 'trwyddi-draw'. Mae pethau'n rhad yma o'u cymharu â Vicksburg ond nid yw'n meddwl eu bod am aros yn hir.
Mae John wedi gweld Port Hudson a mae'n dweud ei fod yn un o'r llefydd mwyaf di sylw a welodd erioed o gymharu â Vicksburg. Nid oes ganddynt fwy na saith neu wyth o ynnau yn wynebu'r afon ac yn ôl John, roedd hi reit hawdd eu curo. Dywed fod rhai o'r 'N. Y. patroles' yn y dref wedi saethu un o'r bechgyn o gatrawd 11eg o Wisconsin a churo un arall o gatrawd 11eg Indiana. Aeth y ddau gatrawd lawr i'r dref gyda'u gynnau ac maent wedi hel pob un o'r N.Y. allan o'r dref. Yn ôl John, mae'r mintai N.Y o'u couau am iddynt eu galw'n 'Eastern troops' ac maent yn erbyn byddin Grant am eu bod wedi agor Afon Missisippi.
Nid yw John wedi clywed dim gan T. E. Hughes ers iddo fynd i fyny'r afon.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment