Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll planhigfa Homes , Louisiana, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 16 Ebrill 1863 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Yn ôl John, maent yn awr rhyw 22 milltir o Milliken's Bend. Bu rhaid iddynt orymdeithio 17 milltir ddoe gyda phaciau ar eu cefnau a dywed John ei fod mor gryf ag y bu erioed.
Mae wedi prynu pâr o esgidiau newydd a gostiodd deg doler - nid oedd dim byd rhatach ar gael. Anfona bum doler gyda'r llythyr hwn er mwyn i'w fam brynu 'gown' newydd.
Mae John yn meddwl y bydd Vicksburg yn cwympo o fewn y bythefnos nesaf. Dywed eu bod o fewn chwe milltir i blanhigfa Jeff Dafis lle'r oedd llawer o ymladd ddoe. Cafodd Cyrnol catrawd o Ohio ei ladd a gwelodd John rai o'r carcharorion.
Sonia John hefyd fod yma'r nadroedd mwyaf iddo eu gweld erioed, rhai ohonynt rhwng pedwar a chwe throedfedd o hyd.
Dywed ar ddiwedd ei lythyr
'mi allaf fod yn hir heb gaul cyfla i ystrifennu eto byddwch yn galonog beth bynnag'.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment