Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll Milliken's Bend, Louisiana, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 11 Ebrill 1863 [tudalen 1 o 2]

Disgrifiadau

Dywed John iddo anfon llun adref at ei rieni gyda'i lythyr diwethaf ac mae'n anfon un arall gyda'r llythyr hwn.

Dim ond chwech ohonynt sydd yn y babell erbyn hyn gan fod Owan Owans a Robert Williams yn yr ysbyty.

Mae John wedi bod yn brysur oherwydd fod eu hadran nhw wedi derbyn adolygiad ar yr wythfed a'r nawfed o'r mis gan Cadfridog Grant, Cadfridog Sherman a Chadfridog Smith yn ogystal â llawer o'r 'brigadiar generals'. Roedd Cadfridog Grant wedi dweud ei hun mai Catrawd 23 oedd y gorau.

Caiff John dipyn o hwyl wrth chwarae pêl a dywed fod pethau'n weddol dawel ar hyn o bryd.

Sonia hefyd eu bod yn disgwyl symud cyn hir i Kentucky neu Tenesee. Maent wedi archebu tri chant o hetiau newydd 'rhag y gwres'.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26098
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
11/4/1863
Gwelediadau:
439
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment