Llythyr oddi wrth Thomas Hughes, o wersyll ger Vicksburg, at rieni John Griffith Jones yn Beaver Dam, Wisconsin, 14 Chwefror 1863 [tudalen 1 o 4]
Llythyr oddi wrth Thomas Hughes, o wersyll ger Vicksburg, at rieni John Griffith Jones yn Beaver Dam, Wisconsin, 14 Chwefror 1863 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Dywed Thomas Hughes fod John wedi derbyn llythyr oddi wrth ei rieni ddoe ond na fydd yn medru ysgrifennu yn ôl am wythnos. Mae'n rhan o'r gatrawd sydd wedi mynd ar daith i fyny'r afon. Mae Thomas Hughes yn dweud ei fod wedi aros i warchod y pebyll ac mae'n ysgrifennu rhag iddynt deimlo yn anesmwyth am John.
Dywed fod popeth yn weddol dawel a fod y tywydd yn braf iawn. Mae'r post yn cyrraedd dwywaith yr wythnos, maent i gyd yn
'teimlo yn llawen tros ben caul llythyr o rhuwla yn enwedig oddi cartref...maent yn llawer o help i ni yn y wlad bell ac estronol hon'.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment