Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, Camp Bates, Kentucky, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, [21 Medi 1862] [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Yn y llythyr hwn, dywed John nad yw'n cofio iddo erioed deimlo mor iach. Mae'n disgrifio eu taith i Cincinnati. Fe wnaethant adael am chwech o'r gloch y bore, ddydd Llun y pymthegfed o Fedi ac roeddynt wedi cyrraedd Chicago erbyn saith o'r gloch ar y noson gyntaf. Aethant yn eu blaenau drwy'r dref cyn cael swper yn y 'cars'. Bu rhaid iddynt deithio drwy'r nos i Olido, Ohio ger Llyn Erie, lle newidiwyd y 'cars' a chawsant frecwast da mewn 'eating room hardd'. Buont yn teithio am ddau ddiwrnod arall cyn gweld Cincinnati. Roedd hi'n ddeunawfed o Fedi erbyn iddynt gyrraedd y camp.

Wrth ddisgrifio'r camp, dywed John
'yr ydym ni ar ben bryn uchal wrth ben Ohio river i may yn lled gynnas y dydd ac yn lled oyr y nos'
Mae'n nodi nad oes yn Cincinnati unrhyw fasnach ar ôl pedwar o'r gloch y prynhawn. Mae pawb sydd yn gallu cario arfau wedi bod yn cymryd rhan mewn 'drills' er mwyn eu galluogi i fod o gymorth pe bai angen hynny. Fe fu John ar wyliadwriaeth neithiwr ond nid yw eto wedi gweld golwg o'r gwrthryfelwyr. Mae'n nodi fod tri o'u dynion wedi eu hanafu ar y 'picket' yr wythnos diwethaf. Mae John yn gweld golwg ryfedd ar bethau ar hyn o bryd
'i mae y nigors wedi llychio y ddeyar i fyny yn walia ar draws ei gilydd ym mhob cyfeiriad'.

Mae'n gorffen ei lythyr drwy ofyn i'w deulu, os ydynt yn ysgrifennu at 'yr hen wlad', i ddweud ei fod yn
'iach ac yn gysyrus mor bell ac y may cysyr iw ddisgwyl'.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26011
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
21/9/1862
Gwelediadau:
265
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment