Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, yn Cincinnatti, at ei rieni a'i frodyr, yn Beever Dam, Wisconsin, 19 Medi 1862 [tudalen 1 o 2]
Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, yn Cincinnatti, at ei rieni a'i frodyr, yn Beever Dam, Wisconsin, 19 Medi 1862 [tudalen 1 o 2]
Disgrifiadau
Dywed John fod ei iechyd cystal ag erioed. Maent wedi croesi Afon Ohio i Kentucky, chwe milltir o Cincinnatti, ac maent wedi gosod eu pebyll ar ben bryn uchel o ble y gallant weld 'steam bots [boats?]'. Mae'n credu fod tua can mil o filwyr yma a golwg hardd arnynt
'ag y gelynion yn cilio yn ôl'
Bu mewn brwydr galed y noson gyntaf yn Cincinnatti, sef y 17eg o fis Medi, a disgrifia eu symudiadau cyn nodi
'ni welais i y fath frwydyr[sic] erioed yr oedd yr arfa yn dew ar hyd y ddayar[sic]'
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment