Ffotograffiaeth Arthur Brook
Arthur Brook (1886-1957). Ystyrir Arthur Brook, a aned ger Llanfair-ym-muallt, yn un o ffotograffwyr hanes natur gorau hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Bwriodd ei brentisiaeth yn y diwydiant gwneud oriorau a dechreuodd dynnu lluniau adar ym 1909, diddordeb brwd a barhaodd am weddill ei oes. Roedd yn tynnu lluniau yn ystod y dydd a’r nos, gan ddefnyddio cyfarpar pwrpasol a chaiff ei gydnabod yn un o arloeswyr datblygu dyfeisiau fflacholau ar gyfer ffotograffiaeth bywyd gwyllt yn ystod y nos. Cafodd y delweddau yma eu digideiddio trwy rodd gan Sefydliad Esmée Fairbairn i Amgueddfa Werin Cymru yn 2011.