Rhoddion Serch o’r Casgliadau
A hithau bron yn ddiwrnod San Ffolant, rydym wedi bod yn chwilio’r casgliadau am eitemau sy’n adlewyrchu’r diwrnod cariadus hwn. O symbolau confensiynol i eiconau Cymreig, mae’r eitemau isod yn arddangos yr amrywiaeth arbennig o roddion serch ar hyd y canrifoedd.
1. Llwy Garu
Llwyau caru yw rhoddion serch enwocaf Cymru. Byddai cariadon yn eu cerfio a’u rhoi i anwyliaid, o tua chanol i ddiwedd yr 17eg ganrif ymlaen. Mae’r llwy garu hynaf y gwyddom amdani yn cael ei chadw yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac yn dyddio’n ôl i 1667.
2. Modrwy wedi’i Engrafu
Cafodd y fodrwy hon ei darganfod yng nghaer Rufeinig Castell Collen, Llanllŷr. Wedi’u engrafu gyda llaw ar y fodrwy mae’r geiriau ‘AMOR DVLCIS’ neu ‘cariad melys’.
3. Pren Staes Cerfiedig
Cafodd y pren staes cywrain hwn ei roi fel rhodd serch. Wedi’u engrafu arno mae’r neges ‘D. E. 1793’. Câi pren staes ei osod mewn staes i’w gadw’n sefydlog, ac roedd yn beth eithaf cyffredin i ddynion roi un yn anrheg i’w gwragedd.
4. Pincws
Cafodd y pincws hyfryd hwn ei yrru i Miss Elen Burns o Rymni. Ni wyddom pwy yrrodd ef, ond ar banel canolog y glustog mae’r geiriau:
Think of me
When the golden sun is sinking
And your mind from care set free
When of others you are thinking
Will you sometimes think of me
5. Cerdyn San Ffolant
Rhodd ychydig yn symlach na’r gweddill. Daw’r enghraifft hon o Amgueddfa Casnewydd, ac ni wyddom pwy wnaeth y cerdyn.
Gan Ellen Davies, Swyddog Marchnata Cynorthwyol CyW