Diweddariad Culture Beacon Abaty Llandudoch

Llandudoch fydd y gymuned gyntaf yn Sir Benfro i gyflwyno ei threftadaeth mewn ffordd arloesol drwy ddefnyddio technoleg iBeacon. Bydd Abaty Llandudoch yn cael ei ychwanegu i’r ap Culture Beacon a ddatblygwyd gan Gasgliad y Werin Cymru ar y cyd â Locly, cwmni technoleg o ogledd Cymru.

Cafodd y sesiwn hyfforddi gyntaf ar system Culture Beacon ei chynnal yn ddiweddar yn y Cartws, Llandudoch, wrth i Reolwr Arloesi CyW, Tom Pert, roi help llaw i wirfoddolwyr Hanes Llandoch.

“Cawsom hwyl fawr yn dysgu am ap Culture Beacon a sylweddoli ei fod yn hawdd iawn i’w ddefnyddio. Rydym nawr wrthi’n datblygu’r cynnwys priodol i roi profiad rhyngweithiol i’n hymwelwyr. Byddwn yn treialu iBeacons yn y caffi a’r amgueddfa, ac rydym yn gobeithio ei lansio yn y Flwyddyn Newydd,” meddai Nia Siggins, un o ymddiriedolwyr Hanes Llandoch.

Caiff cynllun peilot Abaty Llandudoch ei gefnogi drwy broject Adfywio Gogledd Sir Benfro, sy’n cael ei redeg gan Siambr Fasnach a Thwristiaeth Abergwaun a’i ariannu gan y Gronfa Cymunedau Arfordirol. Dywedodd Kate Lindley, rheolwr y project adfywio: “Rydym yn sylweddoli bod potensial mawr i ddefnyddio iBeacons yn y sector dreftadaeth a thwristiaeth. Gellir defnyddio’r dechnoleg i gyflenwi cynnwys treftadaeth rhyngweithiol safonol, gan roi hwb i’r economi leol hefyd. Yn y dyfodol, bydd modd cyfuno iBeacons gyda busnesau lleol, bwytai ac ati, a bydd modd i ymwelwyr ganfod gwybodaeth ynghylch digwyddiadau lleol, cynigion arbennig mewn bwytai er enghraifft, ac aros yn yr ardal yn hirach.

“Mae’r Cartws a’r Abaty wedi’u dewis fel project peilot am ei fod yn safle cymharol fach, lle gallwn dreialu’r fersiynau tu mewn a thu allan. Rydym yn gweithio’n agos â Hanes Llandoch a Chasgliad y Werin Cymru wrth brofi a gwerthuso’r dechnoleg. Gobeithiwn y bydd y profiad a’r gwersi a ddysgir o fudd i gymunedau, busnesau a sefydliadau eraill yn Sir Benfro sy’n edrych ar botensial technoleg iBeacons ar hyn o bryd.”

 

Os hoffech chi wybod mwy am iBeacons a’r ap Culture Beacon, cysylltwch â: [email protected]

 

This article was posted by:

Tom Pert's profile picture

Tom Pert