arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

BBC RES a Chasgliad y Werin Cymru yn cydweithio

Cymraeg

Cynhaliwyd cyfarfod diweddar yn swyddfeydd Rippleffect, datblygydd ein gwefan yn Lerpwl, rhwng grŵp technegol CyW â Chiara Delvescovo ac Alex Tucker o’r BBC i drafod datblygiad Gofod Ymchwil ac Addysg y BBC (RES) a sut y gallai hwn gyfrannu at gynnydd pellach Casgliad y Werin.

Mae platfform RES yn bartneriaeth uchelgeisiol rhwng y BBC, Jisc a’r British Universities Film and Video Council gyda’r nod o gasglu ynghyd cymaint â phosibl o archifau cyhoeddus y DU at ddibenion addysgiadol.

Gan ddefnyddio safonau Data Agored, bydd y project yn galluogi i ddeunydd a data gan amrywiaeth eang o ddarparwyr i gael ei gyhoeddi i’w ddefnyddio mewn amgylchedd addysgiadol. Caiff datblygwyr eu gwahodd i gynnig eu syniadau am brototeipiau ysbrydoledig all sbarduno dysgu ac ymchwil mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion, a sefyllfaoedd addysgiadol eraill.

Yn y cyfamser, bydd Casgliad y Werin yn parhau i ddatblygu ein API (Application Programming Interface) er mwyn cyhoeddi deunydd addas yn unol â’r safonau Data Agored priodol er mwyn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl. Rydym hefyd yn gobeithio edrych ar sut y gall mynediad i gyfoeth yr archifau drwy gyfrwng API ddod yn rhan o arlwy gwefan Casgliad y Werin, ac unrhyw blatfform arall gaiff ei reoli gan yr un rhaglen.

Darlun Tom Pert