Cylchlythyr Medi 2018
Posted by
Jessica Roberts, dydd Llun, 10/29/2018 - 09:07
Bob blwyddyn bydd Pwyllgor Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn gwahodd holl ysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cystadlaethau projectau treftadaeth genedlaethol. Mae Casgliad y Werin Cymru wedi cefnogi'r gystadleuaeth dros y blynyddoedd trwy noddi rhai o'r gwobrau digidol.
Eleni enillodd Ysgol Penboyr ac Ysgol Maesydderwen y wobr am Ragoriaeth Ddigidol, Llongyfarchiadau i'r ddau ohonyn nhw!