Dewch i ymuno â ni am sesiwn hyfforddiant dwy awr am ddim all eich helpu
Mae Casgliad y Werin yn cynnal sesiynau hyfforddi. Darganfyddwch pa bryd y cynhelir sesiwn mewn ysgol gyfagos i chi. Amcan y sesiwn yw rhoi cymorth i chi gyda'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, a dangos i chi sut y gellir defnyddio'n gwefan er mwyn creu projectau digidol yn y dosbarth.
Defnyddiwch y ffurflen gais isod i gysylltu a'n Swyddog Addysg.