Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru's profile picture

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Dyddiad ymuno: 24/07/09

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Y Comisiwn Brenhinol yw'r corff ymchwilio a'r archif genedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru.

Mae'r deunydd yr ydym yn ei roi ar Casgliad y Werin Cymru yn dod o'n harchif gyhoeddus, sef Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae'r deunydd sydd yn y cofnod hwn yn gymysgedd o hawlfraint y Goron a hawlfraint trydydd partïon. Gellir defnyddio deunydd hawlfraint y Goron ar gyfer astudiaethau preifat neu at ddiben anfasnachol dan y Drwydded Llywodraeth Anfasnachol. Dylid cydnabod yr hawlfraint fel a ganlyn: ‘© Y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru'. Mae'n bosibl y bydd yn rhaid cael caniatâd deiliad yr hawlfraint ar gyfer deunydd trydydd parti. Cofiwch gysylltu â ni os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os hoffech ddefnyddio unrhyw ddeunydd o'n casgliadau at ddibenion masnachol.

Mae gennym gasgliad unigryw o ffotograffau, mapiau, cynlluniau, lluniadau, cyhoeddiadau ac adroddiadau yn ein harchif. Mae modd gweld catalog llawn o archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ar www.coflein.gov.uk

Mae'r Comisiwn Brenhinol yn cynnig gwasanaeth ymholiadau cyhoeddus rhad ac am ddim. Cofiwch gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth. Mae croeso i chi ymweld â'n Llyfrgell a'n Hystafell Chwilio sydd ar agor ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 9:30 a 16:00, ac ar ddydd Mercher rhwng 10:30 a 16:30. Rydym wedi ein lleoli yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ein cyfeiriad llawn yw Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ffordd Penglais, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU.

Ymunwch â Chyfeillion y Comisiwn Brenhinol i gael ein newyddion diweddaraf, diweddariadau am brosiectau, manylion digwyddiadau, a mwy. Gwybodaeth lawn ar gael ar ein gwefan.

Gwefan: https://cbhc.gov.uk/ (Yn agor mewn ffenestr newydd)

  • Stori[18 eitem]
  • 163
  • Stori[3 eitem]
  • 2,549
  • Stori[5 eitem]
  • 2,810
  • Stori[5 eitem]
  • 3,556
  • Stori[7 eitem]
  • 5,828
  • Stori[1 eitem]
  • 1,322
  • Stori[4 eitem]
  • 3,557
  • Stori[5 eitem]
  • 15,737
  • Stori[3 eitem]
  • 1,365
  • Stori[5 eitem]
  • 2,787
  • Stori[3 eitem]
  • 8,312
  • Stori[4 eitem]
  • 6,807
  • Stori[5 eitem]
  • 6,074
  • Stori[6 eitem]
  • 8,096
  • Stori[7 eitem]
  • 6,243
  • Stori[6 eitem]
  • 7,145
  • Stori[1 eitem]
  • 3,569
  • Stori[5 eitem]
  • 9,249
  • Stori[8 eitem]
  • 20,660
  • Stori[6 eitem]
  • 3,488
  • Stori[7 eitem]
  • 6,404
  • Stori[6 eitem]
  • 3,767
  • Stori[2 eitem]
  • 2,000
  • Stori[6 eitem]
  • 6,099
  • Stori[5 eitem]
  • 5,866
  • Stori[3 eitem]
  • 2,038
  • Stori[3 eitem]
  • 2,391