Y Bardd Wyddonydd "D.S." Jones MSc.

Eitemau yn y stori hon:

Y BARDD WYDDONYDD  ‘ D. S.’  JONES MSc.

Ganwyd David Stephen Jones ym Mhendre ym mhentref Felindre ger Llandysul, ond fel D S Jones Llanfarian y daeth yn amlwg fel bardd tua diwedd y chwedegau a dechrau’r saithdegau yn y ganrif ddiwethaf. Ar ôl gyrfa ddisglair fel gwyddonydd dyrchafwyd ef yn Swyddog Ymgynghorol gyda I.C.I. a byw yn Llawr y Glyn,  Llanfarian ger Aberystwyth, ac yn gymharol ddiweddar yn ei fywyd y daeth e i amlygrwydd cenedlaethol fel bardd.

Pysgota a barddoni oedd yn mynd a’i fryd ac yn dilyn cymhelliad  T Llew Jones (ac yntau’n hanner cant oed erbyn hynny) fe aeth ati i anfon cynnyrch ei awen i ambell eisteddfod er mwyn cael beirniadaeth. Fe flodeuodd yn sydyn ac ym mlynyddoedd olaf ei oes fer, fe enillodd gadeiriau a gwobrau o bob math mewn eisteddfodau mawr a man.

Ers 1970 bu’n enillydd cyson yn y genedlaethol – yng nghystadlaethau’r Delyneg, y Soned, Y Ddychangerdd ac eraill, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1974 – ac yntau’n gorwedd yn gystuddiol yn ysbyty’r Royal Marsden ger Llundain, deallodd iddo ennill gyda chlod uchel, y beirniad Gerallt Jones, ar benillion yn null y Ficer Pritchard. Yn y gyfres o benillion mae ‘D.S.’ yn ceryddu sir Gaerfyrddin  am dderbyn Gwynfor a’i wrthod wedyn.

           ‘ Anwadalwch yw dy bechod -

            Ethol hwn ac yna’i wrthod;

            Fel y safodd yn yr adwy

            Wrtho’i hun, sy’n fythgofiadwy’.

Ymhen wythnosau wedyn, ar ôl cystudd dwys bu farw’n 57 oed ar y 1af o Hydref 1974.

Gan mai un o Drefach-Felindre ydw innau hefyd rwyf wedi cymryd diddordeb mawr ym mywyd a gwaith ‘D.S.’ ers i mi ddod i’w adnabod yn dda pan oeddwn yn byw yn Aberystwyth, ac yntau fel minnau wedi ein codi yng Nghapel Methodistiaid Closygraig, Drefelin, lle roedd Tom Jones ei dad yn ben blaenor.

Rwy’n ei gofio’n dweud mai hobi iddo oedd barddoni ers pan yn ifanc a gwnâi hynny er mwyn rhyw fath o bleser personol nes i T Llew ddweud wrtho am fynd ati i gystadlu mewn eisteddfodau.

O ganlyniad, ac o fewn saith mlynedd olaf ei fywyd fe enillodd ddwsinau o gadeiriau ar hyd a lled Cymru. Anfonai ei weithiau i gystadlaethau’r  gadair ac enillai’n gyson.

Ar un nos Sadwrn fe ddaeth y wybodaeth ei fod wedi ennill cadair mewn tair eisteddfod wahanol. Doedd dim amdani ond anfon ei fab Alun i Landderfel yn y gogledd a’i fab yng nghyfraith i Landybie yn y de ac yntau i eisteddfod Penrhyncoch.  Tybed a yw ennill tair cadair ar yr un noson yn record i unrhyw fardd?

Ym 1976 fe welodd Gwasg Gomer yn dda i gyhoeddi cyfrol o’i waith. Mae Hud yr Hydref  wedi ei golygu gan T Llew Jones ac mae cynnwys llawer o’r sylwadau hyn yn seiliedig ar ei ragair yn y gyfrol honno. Gwelir i ‘D.S.’ fod yn fuddugol ar y Soned yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1970 ar y testun Trais. Eto yn 1972 a Soned i Maes y Plwm yn 1973, a’i bedair llinell olaf yn darllen

                         Ond nid oedd modd i ti amgyffred maint

                         ‘Anfeidrol Fod a’i hanfod ynddo’i Hun’,

                          Er bod dy enw ar faen yn Nyffryn Clwyd

                          Dy gofeb fyw sydd ar wefusau’r saint.

Enillodd ar y Faled yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1971 ac mae ei Gerddi Ysgafn, ei Ddychangerddi  a’i Hen benillion Telyn yn bleser i’w darllen, ac yn ôl T Llew Jones –

 “Meddai ddawn fawr fel parodiwr, ac roedd yn feistr ar lunio cerddi dychan hefyd. Yn wir, roedd digrifwch yn nodwedd bwysig o’i waith.”

Ar ôl ei angladd yn hen eglwys Llangeler, Sir Gaerfyrddin ar y 5ed o Hydref 1974, lle daeth tyrfa enfawr ynghyd i dalu’r gymwynas olaf, fe ddaeth y newyddion mai ‘D.S.’ oedd wedi ennill Lamp y Glowyr am farddoniaeth yn Eisteddfod y Glowyr ym Mhorthcawl. Cynhaliwyd y seremoni yno ar y Sadwrn dilynol gan orchuddio’r lamp gyda lliain du er coffadwriaeth amdano.

Fel hyn y canodd T Llew iddo ar ôl ei golli,

                            Mae ’D.S.’ a’i gynnes gan?

                            Awr ddaeth i orwedd weithian.

 

                            Mae’r hen ffrind? Mae’r awen ffraeth?

                             Mae’r hwyl dan glo marwolaeth.

 

                             Mae’r bardd cabol, mae’r sgolor?

                             O dan isel, ddirgel ddôr.

 

                             Aeth talent i’r fynwent fud,

                             Dawn geiriau dan ei gweryd.

 

                             O’r nychu hir – yn ei chol

                             Daw hedd i’r corff cystuddiol.

 

                             Ond ni thrig ei gerddi gwar

                             O dan do hen ei daear.

 

Ac yntau Dic Jones wedyn

                             Wybren ei len a lonnodd, - ei seren,

                                 Dros awr y disgleiriodd;

                             Diarwybod y cododd,

                             Druan, a mynd yr un modd.

 

Mab iddo yw’r Cynghorydd Alun Lloyd Jones sy’n cynrychioli Llanfarian dros Blaid Cymru ar Gyngor Sir Ceredigion a’i ferch yw Bethan Roderick sy’n byw ym Mhembre, Sir Gar.

Ym 1988 trefnais i osod cofeb i ‘D.S.’ ar fur ei hen gartref Pendre ym mhentref Felindre ac ar y diwrnod hwnnw cafwyd rhaglen i’w gofio yn Neuadd y Ddraig Goch, ac wrth i’r ardal honno baratoi ei gwefan newydd ‘Stori Fawr Drefach- Felindre’  fe fydd ‘Dai Pendre’ yn cael y sylw haeddiannol fel un o feirdd amlycaf y fro.

Peter Hughes Griffiths